Codwyd dros £2,100 er budd yr elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn naw cynllun byw’n annibynnol Barcud yng Ngheredigion a Phowys yr wythnos diwethaf, wrth iddynt gynnal digwyddiadau Coffi a Chacen llwyddiannus. Yn ddiweddar, lansiodd Barcud ei flwyddyn o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gan osod targed codi arian, sef £5,000. Dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i Barcud godi arian ar gyfer elusen …
Barcud yn dathlu cwblhau 41 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni yng ngogledd Sir Benfro
Mae 41 o gartrefi effeithlon o ran ynni wedi’u cwblhau yn llwyddiannus gan Grŵp Barcud yn ddiweddar ynghanol Crymych yn Sir Benfro. Mae’r datblygiad gwerth £9m yn cynnwys cymysgedd o dai ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â byngalos â dwy a thair ystafell wely. Mae hefyd yn darparu cyfuniad o ddeiliadaethau, sef 20 o gartrefi …
Bydd Barcud yn sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd y Strategaeth Cynnwys Tenantiaid a Chymunedau newydd
Mae Barcud yn datblygu Strategaeth Cynnwys Tenantiaid a Chymunedau well sy’n parhau i adeiladu ar y gwaith o ymgysylltu â thenantiaid ac sy’n egluro ymrwymiad i sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau a wneir ar draws y sefydliad yn y dyfodol. Mae’r Strategaeth wrthi’n cael ei llunio yn dilyn cyfres ddiweddar o weithdai cydweithredol a oedd yn cynnwys tenantiaid, aelodau’r …
Help gyda chostau olew a nwy petrolewm hylifedig
Bydd pobl sy’n cael trafferth gwresogi eu cartrefi yng Nghymru yn cael cymorth ariannol ychwanegol wrth i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol olygu bod prisiau tanwydd ledled y byd yn dal i gynyddu. Gall miloedd o aelwydydd yng Nghymru gael help gyda chostau olew a nwy petrolewm hylifedig (LPG). Gall y sawl sy’n dioddef caledi ariannol difrifol gael cymorth gan …
Dydd Sgip
Cafodd diwrnod sgip cymunedol llwyddiannus ei gynnal ar ystâd Clawdd Helyg ddydd Mawrth 31 Mawrth, a ddaeth â staff Barcud a phreswylwyr lleol at ei gilydd mewn ymdrech ar y cyd i wella’r gymdogaeth Yn rhan o’r fenter, bu aelodau niferus o dîm Barcud yn gweithio ochr yn ochr â phreswylwyr a wnaeth yn fawr o’r cyfle i gael gwared …
Barcud yn cael dechrau da i’w ymgyrch codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru
Yn ddiweddar, lansiodd Barcud ei flwyddyn o godi arian er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r elusen, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni, yn dibynnu’n gyfan gwbl ar roddion gan y cyhoedd i redeg ei cherbydau ymateb cyflym a’i hofrenyddion. Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin. Mae ganddo 300 o weithwyr a 4,500 o denantiaid, …
Aelod GPTB Anita dderbyniodd wobr genedlaethol gan Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Llongyfarchiadau i aelod o Grŵp Partneriaeth Tenantiaid Barcud, Anita Clasby, a dderbyniodd wobr genedlaethol gan Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Gwobr Mirror genedlaethol ydyw ac fe’i cyflwynwyd i Anita i gydnabod ei gwaith di-flino yn codi ymwybyddiaeth o effaith toriadau budd-daliadau. Mae’r Grŵp yn falch iawn o Anita a’r holl y mae’n cyflawni fel aelod ffyddlon o’r Grŵp, yn denant …
Cartrefi ar gael drwy gynllun Rhan Berchnogaeth yng Nghrymach NAWR!
Cartrefi ar gael drwy gynllun Rhan Berchnogaeth yng Nghrymach NAWR! Mae’r wybodaeth ar Wefan Asiantaeth Dai Morgan and Davies (CLICIWCH YMA AM MWY) Mae hwn yn gyfle gwych i bobol leol berchen ar ei cartref cyntaf yn yng nghanol cymuned gogledd sir Benfro.
Cylchlythyr Gwanwyn 2025!
Mae ein cylchlythyr gwanwyn 2025 bellach ar gael i’w ddarllen, cliciwch yma i ddarllen mwy:
Swydd newydd Gyffrous yn Barcud
Mae’r broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer rôl Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol newydd yn Barcud. Mae’r tîm gwych hwn yn edrych i lenwi un o’r swyddi uwch gyda’r rôl wedi’i lleoli naill ai yn ein Prif Swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan neu yn ein swyddfeydd rhanbarthol yn Aberystwyth neu’r Drenewydd. Dyma gyfle gwych i’r ymgeisydd iawn – cydnabyddiaeth ardderchog, T&A da …












