Image

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol i’r gymdeithas dai warchod yr arian cyhoeddus y mae’n ei weinyddu. Gall rannu gwybodaeth a ddarparwyd iddi â chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu am weinyddu arian cyhoeddus, er mwyn atal twyll a dod o hyd i achosion o dwyll.

Mae Swyddfa’r Cabinet yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data.

Mae paru data yn golygu cymharu’r cofnodion cyfrifiadurol sydd gan un corff â chofnodion cyfrifiadurol eraill sydd gan y corff hwnnw neu gorff arall er mwyn gweld i ba raddau y maent yn cyfateb i’w gilydd. Gwybodaeth bersonol yw hon fel rheol. Mae paru data drwy ddulliau cyfrifiadurol yn golygu bod modd adnabod hawliadau a thaliadau a allai fod yn rhai twyllodrus. Os gwelir bod data’n cyfateb, bydd hynny’n awgrymu bod yna anghysondeb y mae angen ymchwilio ymhellach iddo. Ni ellir rhagdybio mai twyll, gwall neu rywbeth arall sydd i gyfrif am hynny, nes y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Ar hyn o bryd, mae Swyddfa’r Cabinet yn mynnu ein bod yn cymryd rhan mewn ymarfer paru data er mwyn cynorthwyo i atal twyll a dod o hyd i achosion o dwyll. Mae’n ofynnol i ni ddarparu setiau penodol o ddata i Swyddfa’r Cabinet at ddibenion paru ar gyfer pob ymarfer, ac mae gwybodaeth am y rhain ar gael yng nghanllawiau Swyddfa’r Cabinet, sydd i’w gweld drwy GLICIO YMA

Ar 1 Ebrill 2015, cafodd cyfrifoldeb am y Fenter Twyll Genedlaethol ei drosglwyddo o’r Comisiwn Archwilio i Swyddfa’r Cabinet. Dan y pwerau a geir yn Rhan 6 Deddf Archwilio ac Atebolrwydd Lleol 2014, mae gan Swyddfa’r Cabinet awdurdod statudol i ddefnyddio data yn rhan o ymarfer paru data. Nid oes ar y Swyddfa angen caniatâd y sawl sy’n destun data dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

Bydd y cod ymarfer cyfredol ar gyfer paru data’n parhau mewn grym nes y bydd y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet yn cyhoeddi cod newydd. Mae modd gweld y cod drwy GLICIO YMA

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol Swyddfa’r Cabinet a’r rhesymau pam y mae’n paru mathau penodol o wybodaeth, CLICIWCH YMA.

I gael rhagor o wybodaeth am baru data yn y sefydliad hwn, cysylltwch ag Elfyn Jones – Cyfrifydd, Swyddfa Gyllid: