Image
RÔL Y BWRDD

Mae’r Bwrdd yn arwain ar faterion sy’n ymwneud â threfniadau llywodraethu a fframwaith sicrwydd y gymdeithas. Mae’n diffinio ein gwerthoedd a’n hamcanion strategol ac yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â nhw.

Mae’n blaenoriaethu sut y byddwn yn defnyddio ein hadnoddau ac yn monitro perfformiad y tîm rheoli sy’n rhedeg y cwmni o ddydd i ddydd. O fewn y diben cyffredinol hwnnw, mae rolau a chyfrifoldebau’r Bwrdd fel a ganlyn:

  • Pennu cyfeiriad strategol
  • Rheoli asedau
  • Cymeradwyo cynlluniau
  • Sicrhau rheolaeth ariannol
  • Ymdrin â materion staffio
  • Llywodraethu a gwneud penderfyniadau
  • Ymdrin â threfniadau’r Bwrdd
  • Ymdrin â chysylltiadau allanol
Image
Alison Thorne
Cadeirydd Bwrdd Barcud
Mae Alison yn brofiadol fel Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd, a hithau wedi cadeirio ystod eang o bwyllgorau, ac mae hi ar hyn o bryd yn Gadeirydd i Gwmi Dawns Cenedlaethol Cymru a bu gynt yn Gadeirydd i Chwarae Teg. Hi yw’r Uwch Aelod Bwrdd Annibynnol i URC ar hyn o bryd ac mae hi’n adeiladu ar ei gwaith cydraddoldeb fel Arweinydd Cymru ar gyfer Women on Boards ac fel Uwch-Aelod Annibynnol o’r Panel ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus i Lywodraeth Cymru.
Image
Dafydd Lewis
Aelod o’r Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad

Aelod o Fwrdd Gofal a Thrwsio ym Mhowys

Bu Dafydd gynt yn Gyfarwyddwr Corfforaethol gyda Chyngor Gwynedd a chanddo gyfrifoldebau am dai, gofal cymdeithasol i oedolion, iechyd a lles a phartneriaethau diogelwch cymunedol. Mae Dafydd yn dod â’i sgiliau i’r Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad a Bwrdd Gofal a Thrwsio ym Mhowys. Mae Dafydd yn rhugl yn y Gymraeg.

Image
Kaye Law-Fox
Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu a Chydnabyddiaeth Ariannol

Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol

Mae Kaye yn Gadeirydd profiadol gyda dros 20 mlynedd mewn rolau gweithredol ac uwch reolwyr yn y sector gyhoeddus. Arweiniodd ei harbenigedd llywodraethu wrth gyflawni rhaglenni newid cenedlaethol a rhanbarthol cymhleth mewn sectorau rheoleiddiedig, a rolau Bwrdd yn y sector tai cymdeithasol ers 2003, at ei phenodiad yn Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol a Chadeirydd Pwyllgor Llywodraethu a Thaliadau Barcud.

Mae Kaye hefyd yn Cadeirio Gwasanaethau Reoli Swydd Gaerloyw, y cwmni ystadau, cyfleusterau a chyfalaf sy’n is-gwmni sy'n eiddo llwyr i Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Swydd Gaerloyw.  Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Cyswllt yr Ymddiriedolaeth.

Image
Richard Woolley

Aelod o’r Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad

Aelod o Fwrdd Cyngor Gofal

Mae Richard yn Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig a bu gynt yn Brif Weithredwr Connexus Homes.  Mae ganddo dros 30 mlynedd o brofiad yn y sector tai cymdeithasol mewn sefydliadau sy’n cynnwys trosglwyddiadau gwirfoddol ar raddfa fawr yn ogystal â chymdeithasau tai traddodiadol mewn swyddogaethau megis Cyfarwyddwr Adnoddau a Phrif Gyfrifydd Grŵp yn ogystal â Phrif Weithredwr am bron i bum mlynedd. Â chefndir cryf mewn cyllid, llywodraethiant a strategaeth dai, mae Richard yn aelod gwerthfawr o’r Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad a Bwrdd y Gymdeithas Gofall ill dau, yn ogystal â’I swyddogaeth fel aelod o Fwrdd y Grŵp.
Image
Mererid Boswell

Aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg

Aelod o Fwrdd EOM

Mererid yw Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. A hithau’n gyfrifydd siartredig â phrofiad o gyllid yn y sectorau elusennol a chyhoeddus, gwneir defnydd da o sgiliau ariannol Mererid fel aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg a Bwrdd EOM. Mae Mererid yn rhugl yn y Gymraeg.
Image
Carina Roberts
-

Wedi arwain yn y maes tai ers dros 30 mlynedd

Profiad o weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill yn y sector gyhoeddus a phreifat

Wedi bod  yn aelod bwrdd o sawl fwrdd gwirfoddol gan gynnwys TPAS Cymru.

Yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Image
John Rees

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae John yn Bennaeth Cyllid yn Plymouth Community Homes ac yn Gyfrifydd Ardystiedig Siartredig. Arweiniodd profiad John o gyllid a rheoli risgiau yn y sector tai cymdeithasol at ei benodiadau fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg ac Is-Gadeirydd Bwrdd y Gymdeithas Gofal. Mae John wrthi’n dysgu’r Gymraeg ac mae ganddo gysylltiadau ag ardal Ceredigion.
Image
Wyn Jones

Aelod o’r Pwylgor Prosiectau a Pehrfformiad

Mae Wyn yn Gymrawd o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, yn Aelod o Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr ac yn Aelod o Sefydliad y Tystion Arbenigol. Y mae hefyd yn ddatblygwr profiadol ac yn Dyst Arbenigol cofrestredig gyda RICS, yn Brisiwr Achrededig, yn Gymrodeddwr, ac yn Arbenigwr Annibynnol. Mae Wyn hefyd yn dal swydd fel Cadeirydd Siambr Eiddo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, Cadeirydd wedi’i benodi gan y Llywodraeth ar Dribiwnlys Prisio Cymru ac aelod wedi’i benodi gan yr Arglwydd Ganghellor o Dribiwnlysoedd Tir Amaethyddol Lloegr a Chymru ill dwy. Mae sgiliau Wyn yn gweddu’n dda i’w swyddogaethau ar y Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad a Bwrdd EOM.
Image

Carina Roberts

Aelod o’r Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad

Mae gan Carina dros 30 mlynedd o brofiad o arwain yn y sector dai, a phrofiad o waith partneriaeth â chyrff yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae gwybodaeth Carina o dai cymdeithasol a darpariaeth gofal ychwanegol yn ychwanegiad gwerthfawr at y Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad a Bwrdd Gofal a Thrwsio ym Mhowys. Mae Carina’n rhugl yn y Gymraeg.
Image
David Hall

Aelod o Fwrdd EOM

Cyfarwyddwr Gweithredol Buddsoddi a Thwf i Housing Plus Group. Â bron i 30 o brofiad mewn tai cymdeithasol mewn cyflawni rheolaeth asedau, iechyd a diogelwch eiddo, ôl-osod i eiddo, caffael, a datblygu tai, ac yn eistedd ar Grŵp Rheolaeth Asedau CIH a Grŵp Diogelwch Adeiladau NHF ill dau.  Mae sgiliau David yn ychwanegiad gwerthfawr at y Pwyllgor Archwilio a Risg a Bwrdd EOM.
Image
John Wilkinson
-

Yn ymgynghorydd siartredig ym maes Cysylltiadau Cyhoeddus â 30 mlynedd o brofiad o weithio yn y maes

Dros 15 mlynedd o brofiad o weithio gyda chymdeithasau tai ar ymgyngoriadau cynllunio, cysylltiadau gwleidyddol a chymunedol, strategaeth, newid a chyfathrebu mewn argyfwng

Yn aelod o Fwrdd a Chyngor y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus ac yn llywodraethwr ysgol gynradd yng Nghaerdydd

Yn Aelod Masnachol o Cartrefi Cymunedol Cymru ac yn siaradwr rheolaidd mewn cynadleddau ar ei ran

Image

Enid Roberts

Cadeirydd y Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad

Mae Enid yn Ymgynghorydd Rheolaeth hunangyflogedig â phrofiad o weithio mewn Llywodraeth Leol ar TGCh a Rheoli Prosiectau. Mae Enid yn Gymrawd Siartredig o’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig a Chymdeithas Gyfrifiadurol Prydain. Mae sgiliau Enid mewn rheoli prosiectau a dadansoddi data’n gweddu’n dda i’w swyddogaethau fel Cadeirydd y Pwyllgor Prosiectau a Pherfformiad, aelod o’r Pwyllgor Llywodraethiant a Thâl a’r Pwyllgor Archwilio a Risg. Mae Enid yn rhugl yn y Gymraeg.
Image
Bunmi Ajayi-Obanewa
Mae gan Bunmi MBA a dros 18 mlynedd o brofiad ar draws trethiant, cydymffurfio, rheoli risg, lles cymdeithasol a TG. Cymhwysodd fel bargyfreithiwr a chyfreithiwr yn Nigeria, gan arbenigo mewn Trethiant Rhyngwladol. Mae hi'n gweithio fel swyddog diogelu data yn Hafod Housing ac mae'n Gyfarwyddwr Bwrdd i United Welsh ac i YMCA Caerdydd.  Mae Bunmi yn angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a diogelu data.
Image

Carys James

Aelod Cyfetholedig

Mae Carys yn gyn-Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd â thros 39 o flynyddoedd o brofiad o weithio ym maes gofal cymdeithasol, mewn gwasanaethau Plant ac Oedolion. Cafodd ei geni a’i magu yng Ngheredigion ac mae’n dal i fyw yn y sir. Mae gan Carys brofiad helaeth o waith amlasiantaethol ac mae wedi ymrwymo i gryfhau dulliau o weithio mewn partneriaeth. Cymraeg yw ei mamiaith, ac mae’n Weithiwr Cymdeithasol Cofrestredig ac yn gweithio ar hyn o bryd fel Ymgynghorydd Gwaith Cymdeithasol Annibynnol. Mae Carys yn Aelod o Fwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru ac yn Aelod Panel ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Bu Carys yn gweithio yng Ngheredigion yn ystod y rhan fwyaf o’i gyrfa a llwyddodd i greu cydberthnasau gwaith cadarn â chydweithwyr ledled Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Phowys. Mae gan Carys brofiad blaenorol o fod yn Aelod Bwrdd hefyd, oherwydd bu’n gwasanaethu ar Fyrddau Cymdeithas Tai Dyffryn Teifi a Cantref yn y gorffennol.

Image

Claire Townson

Aelod o’r Bwrdd

Claire yw Prif Weithredwr Broadacres yng Ngogledd Swydd Efrog. Fel Aelod o’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, mae gan Claire dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio ym maes adnoddau dynol a datblygu sefydliadol yn y sector masnachol a’r sector elusennol.
Image

Ian Chaffey

Aelod Cyfetholedig

Mae Ian yn Uwch-gyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol sydd â phrofiad o weithio ym maes arweinyddiaeth strategol ar draws y sector tai, y sector cyhoeddus a’r sector gwasanaethau masnachol. Mae wedi cyflawni rhaglenni cymhleth ym maes eiriolaeth dros gleientiaid, trawsnewid gweithredol, a mentrau TG a digidol o bwys sydd wedi cryfhau cydnerthedd sefydliadol a’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae gan Ian hanes amlwg o greu timau llwyddiannus yn dilyn prosesau uno a chaffael. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o bwyllgor rheoli darpariaeth sy’n cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae’n astudio ar gyfer MBA mewn Rheoli Technoleg. Mae’n cynnig llawer o arbenigedd ym maes llywodraethiant yn ogystal ag ymrwymiad hirdymor i gymunedau ledled Cymru.

Ian Chaffey

Aelod Cyfetholedig

Mae Ian yn Uwch-gyfarwyddwr Gwasanaethau Proffesiynol sydd â phrofiad o weithio ym maes arweinyddiaeth strategol ar draws y sector tai, y sector cyhoeddus a’r sector gwasanaethau masnachol. Mae wedi cyflawni rhaglenni cymhleth ym maes eiriolaeth dros gleientiaid, trawsnewid gweithredol, a mentrau TG a digidol o bwys sydd wedi cryfhau cydnerthedd sefydliadol a’r modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae gan Ian hanes amlwg o greu timau llwyddiannus yn dilyn prosesau uno a chaffael. Ar hyn o bryd, mae’n aelod o bwyllgor rheoli darpariaeth sy’n cynorthwyo plant ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae’n astudio ar gyfer MBA mewn Rheoli Technoleg. Mae’n cynnig llawer o arbenigedd ym maes llywodraethiant yn ogystal ag ymrwymiad hirdymor i gymunedau ledled Cymru.