Image

Mae busnes o ddydd i ddydd Grŵp Barcud yn cael ei reoli gan ein Prif Weithredwr, Jason Jones, a’n pedwar Cyfarwyddwr Grŵp.

Cliciwch ar y lluniau isod o bob aelod o’r tîm i weld fideo ohonynt yn eu cyflwyno eu hunain:

Image

Jason Jones

Prif Weithrewr Grŵp 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Arbenigwr Eiddo ac Adfywio gyda dros 25 mlynedd o brofiad yn y sector preifat a chyhoeddus.

Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig.

Profiad o arweinyddiaeth sefydliadol strategol sy'n cynnwys timau mawr ac amrywiol a rheoli cyllidebau ariannol sylweddol.

Cyfrifoldeb gweithredol cyffredinol am gyflawni amcanion strategol Barcud a pherfformiad ar draws Grŵp Barcud.

Image
Kate Curran

Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol

20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cyllid yn y sector cyhoeddus 

Yn gyfrifol am gyllid, TGCh ac adrannau gwella busnes yn Barcud

Yn gyfrifydd cymwys gyda’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth 

Yn aelod o Gyd-bwyllgor Archwilio Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Image
Sian Howells

Cyfarwyddwr Grŵp Datblygu a Rheoli Asedau

Yn Aelod o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig 

Gradd mewn Rheoli Ystadau Trefol (BSc) o Brifysgol Morgannwg 

30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes datblygu masnachol a phreswyl ac ym maes rheoli asedau ac ystadau

Wedi ymuno â Tai Canolbarth Cymru yn 2014

Profiad blaenorol o weithio ym maes cymdeithasau tai gyda Grwpiau Tai Circle a Guinness a Chymdeithas Tai Merthyr Tudful yng Nghymru

Image
Eleri Jenkins
Cyfarwyddwr Grŵp Tai a Chefnogaeth 

38 mlynedd o brofiad o weithio ym mhob agwedd ar reoli tai 

Profiad blaenorol o weithio mewn awdurdod lleol ac i Gymdeithas Tai Cantref

Wedi ymuno â Tai Ceredigion yn 2009

Yn weithiwr proffesiynol uchel ei pharch ym maes tai yn y gorllewin, ac yn un o Gymrodyr y Sefydliad Tai Siartredig 

Yn arwain gwaith ym maes cynnwys tenantiaid a chyfranogiad tenantiaid 

Yn siarad Cymraeg yn rhugl

Image
Llŷr Edwards
Cyfarwyddwr Grŵp Gwasanaethau Masnachol

Gradd mewn Technoleg Adeiladu a Rheoli 

Dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes tai 

Wedi ymuno â Tai Ceredigion yn 2009

Wedi cynllunio, rheoli a goruchwylio’n llwyddiannus y broses o gwblhau’r gwaith a oedd yn ymwneud â Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer Tai Ceredigion 

Yn gyfrifol am Medra ac EOM

Yn siarad Cymraeg yn rhugl