Image

Mae Barcud Cyf yn gymdeithas dai deinamig ac is-gwmnïau wedi'i lleoli yng nghanolbarth a gorllewin Cymru gydag arbenigedd mewn rheoli tai, cymorth tai a datblygu. Mae'r grŵp yn cynnwys Cymdeithas Tai Barcud, sy'n darparu rheolaeth a chynnal a chadw tai trwy ein hadran Medra; Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Cymdeithas Gofal ac EOM. Fel grŵp rydym wedi ymrwymo i greu busnes uchelgeisiol, sy'n edrych ymlaen ac sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cartrefi fforddiadwy i'w rhentu a'u prynu, yn ogystal â darparu gwasanaethau cymorth tai a chynnal a chadw o'r radd flaenaf hanfodol i'n tenantiaid. Rydym wedi ymrwymo i feithrin cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel yng Ngheredigion a Phowys wrth gefnogi busnesau lleol ac ail-fuddsoddi yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

GWERTHOEDD BRAND

Image
Ymrwymaid

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu sylfeini cadarn ar gyfer bywyd

Image
Balchder

Rydym yn ymfalchïo yn ein gwaith ac yn falch o’i wneud yn dda

Image
Parch

Rydym yn parchu’r bobl yr ydym yn gweithio gyda nhw ac iddyn nhw ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad

Image
Gofal

Mae ein pobl, ein cymunedau, ein diwylliant, ein gwlad a’r amgylchedd yn bwysig i ni

Image

Gyda’n Gilydd

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr, tenantiaid a phartneriaid i greu cymunedau cryfach