Image

Mae Barcud yn pennu ei renti’n unol ag arweiniad Llywodraeth Cymru ar renti – a elwir yn system meincnodi rhenti. Nod y system yw sicrhau bod tenantiaid sy’n byw mewn ardal yn talu rhent tebyg am fathau tebyg o gartrefi, a bod codiadau rhent yn deg.

Eich rhent yw prif ffynhonnell incwm Barcud. Caiff ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau er mwyn rheoli eich cartref a sicrhau ei fod yn cael ei atgyweirio i safon dda.

OPSIYNAU TALU
PROBLEMAU TALU RHENT

Mae Barcud wedi ymrwymo i’r egwyddor y dylai tenantiaid dalu eu rhent, ond mae wedi ymrwymo hefyd i ddarparu cymorth a chyngor buan, priodol i denantiaid sydd ag ôl-ddyledion. Cofiwch gysylltu â ni’n syth os ydych yn poeni neu’n ei chael yn anodd talu eich rhent.

Gallech golli eich cartref os na fyddwch yn talu eich rhent. Os oes gennych broblemau ariannol, gallwn weithio gyda chi i sicrhau eich bod yn cael yr holl gymorth y mae gennych hawl iddo. Mae’r help y gallwn ei gynnig yn cynnwys y canlynol:

Sut y gallwn helpu?

  • Eich cyfeirio at asiantaethau cynghori arbenigol megis Cyngor ar Bopeth, Welfare Rights neu wasanaethau cynghori ynghylch dyledion 
  • Gweithio gydag Undebau Credyd lleol a sirol (sefydliadau a all helpu gyda chynlluniau cynilo a benthyciadau rhad)
  • Cytuno ar drefniadau ad-dalu rhesymol ac ymarferol, sy’n cynnwys tynnu arian yn syth o’ch enillion a’ch budd-daliadau.
Gwefannau defnyddiol
ÔL-DDYLEDION RHENT

Os byddwch yn methu â thalu eich rhent yn brydlon, bydd Barcud yn ystyried hynny’n fater difrifol iawn. Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn ymweld â chi gartref er mwyn ceisio dod i drefniant gyda chi a fydd yn eich galluogi i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych. Os na fyddwch yn cadw at y trefniant hwnnw ac os byddwch yn gwrthod talu eich rhent yn fwriadol, byddwn yn cymryd camau cyfreithiol a allai arwain at eich troi chi allan o’ch cartref. Byddwn fel rheol yn dechrau cymryd camau cyfreithiol pan fydd 4 wythnos neu fwy o rent yn ddyledus. Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â’ch ymgynghorydd tai neu drwy fynd i’n gwefan.

Rydym yn gweithio’n galed i gael ein ffurflen ar gyfer cysylltu â ni i weithio unwaith eto. Os hoffech gysylltu â ni drwy ebost, defnyddiwch y ddolen gyswllt isod:

We are working hard to get our contact form back up and running
If you want to contact us by email, please use the link below:

    Please respond in the following language (required)
    EnglishCymraeg

    Permission to Store your Form Information

    Checking this box indicates you understand and accept that the information you submit will be stored and viewed according to our Privacy Policy.

    Yes, I understand and accept my information will be stored.