Image

Medra yw Tîm Llafur Uniongyrchol Barcud ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Mae gennym 60 o weithwyr yn yr adain hon o’r busnes, sy’n cynnwys plymers, trydanwyr, seiri, gweithwyr aml-grefft, paentwyr a phapurwyr, gofalwyr ystadau a chynorthwywyr gweinyddol.

Mae aelodau medrus tîm Medra yn gweithio ar waith cynnal a chadw cyffredinol o ddydd i ddydd, gwaith atgyweirio a gwella, ac argyfyngau y tu allan i oriau gwaith arferol. Ar hyn o bryd, maent yn adeiladu cartrefi newydd sbon o safon i denantiaid newydd yn y canolbarth.

Mae Medra hefyd yn cynnig prentisiaethau i grefftwyr bob blwyddyn. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn ein hadran Recriwtio.