
Ar hyn o bryd, mae’r Gymdeithas yn rheoli dros 4000 o gartrefi. Mae’r rhan fwyaf o’r rheiny wedi’u gwasgaru ar draws pedair sir yn y canolbarth a’r gorllewin.
Ein dyhead yw parhau i ehangu ein stoc a chynorthwyo i ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy ym mha bynnag ffurf ledled Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Gogledd Sir Benfro. Rydym wedi ymrwymo i nifer o ddatblygiadau mawr a bach ar draws y rhanbarth yn unol â’n Strategaeth Ddatblygu gyfredol.
Rydym yn awyddus i glywed am safleoedd lle ceir cyfleoedd datblygu a allai helpu i ddiwallu’r angen am dai a nodwyd yn lleol. Gallent gynnwys safle yr ydych yn dymuno ei werthu, safle yr ydych yn dymuno ei ddatblygu lle gallem brynu rhan neu’r cyfan ohono, neu eiddo lle mae Cytundeb Adran 106 mewn grym i ddatblygu tai fforddiadwy.
Byddwn hefyd yn ystyried safleoedd sydd wedi’u datblygu yn rhannol neu sydd wedi’u cwblhau.
Os hoffech drafod gyda'n tîm datblygu, anfonwch e-bost at: post@barcud.cymru


