
Hoffech chi gwrdd â phobl newydd, dysgu sgiliau newydd a helpu Barcud i wella’r gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i chi?
Os felly, dyma rai o’r ffyrdd y gallwch gymryd rhan:
Cafodd Grŵp Partneriaeth Tenantiaid Barcud ei ffurfio ar ôl i Tai Ceredigion a Tai Canolbarth Cymru uno â’i gilydd.
Mae aelodau’r Grŵp yn denantiaid o bob cwr o’r ardal y mae Barcud yn gweithredu ynddi, ac maent fel rheol yn cwrdd ar ddydd Gwener olaf pob mis (ar wahân i fis Awst a mis Rhagfyr). Maent yn trafod unrhyw faterion a phryderon sydd wedi’u codi ac yn rhannu unrhyw wybodaeth y maent wedi’i chael yn dilyn eu cyfarfodydd misol â Thîm Gweithredol Barcud neu aelodau o Dîm Rheoli Gweithredol Barcud.
Mae’r aelodau yn ymwneud â monitro gwasanaethau ar draws Barcud, ac isod fe welwch chi rai o’r ffyrdd y maent yn gwneud hynny:
- Cynnal arolygon dros y ffôn
- Archwilio ystadau
- Archwilio eiddo gwag cyn iddo gael ei ailosod, er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â “Safon Ailosod” Barcud, a ddatblygwyd gan y Grŵp
- Adolygu polisïau a Safonau Gwasanaeth Barcud.
Mae’r Grŵp hefyd:
- Yn mynychu cyfarfodydd Bwrdd Rheoli Barcud er mwyn sicrhau bod barn y tenantiaid yn cael ei chlywed ar y lefel uchaf
- Yn cyflwyno barn y Grŵp am amcanion strategol Barcud i’r Bwrdd Rheoli, ac mae’r aelodau yn mynychu cyfarfodydd cynllunio busnes Barcud
- Yn darparu erthyglau’n rheolaidd i’r llythyr newyddion ac yn llunio adroddiad blynyddol
- Yn penderfynu ar bynciau ar gyfer cyfarfodydd Fforwm Cyswllt y Tenantiaid a’r Gynhadledd i Denantiaid
- Yn cael hyfforddiant
- Yn mynychu digwyddiadau TPAS Cymru
- Yn ymateb i ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol
Mae cyfarfodydd y Fforwm yn agored i holl denantiaid Barcud, ac maent yn cael eu cynnal fel rheol o
leiaf ddwywaith y flwyddyn mewn amryw leoliadau ar draws yr ardal y mae Barcud yn gweithredu
ynddi. Gall unrhyw un o denantiaid Barcud ofyn am i bwnc gael ei drafod yn y cyfarfodydd hyn. Yn
ogystal, mae Grŵp Partneriaeth Tenantiaid Barcud yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol yn un o’r cyfarfodydd hyn
neu yn y Gynhadledd Flynyddol i Denantiaid.
Gall Barcud gynnig cefnogaeth a help, yn ogystal â hyfforddiant os oes angen, gydag unrhyw un o’r opsiynau hyn. Os hoffech fynychu cyfarfod gallwn ddarparu cludiant am ddim, helpu gyda chostau teithio a helpu gyda chostau gofalwr neu ofal plant.
Os oes gennych ddiddordeb ac os hoffech gael gwybod mwy, mae croeso i chi gysylltu ag un o’n Swyddogion Cynnwys Tenantiaid drwy: