Apwyntiad Prif Weithredwr newydd

Mae Jason Jones wedi cael ei enwi fel Prif Weithredwr newydd y Grŵp i Barcud cyf. 

 mwy na 25 mlynedd o brofiad yn y sector breifat a’r sector gyhoeddus ill dwy, mae Jason Jones, o Aberaeron, yn arbenigwr hen gyfarwydd â maes eiddo ac adfywio sydd wedi gwneud enw iddo’i hun fel unigolyn deinamig, rhagweithiol, a chraff, a chanddo hanes profedig o gyflawni canlyniadau o’r radd uchaf. Y mae wedi’i gymhwyso fel Syrfëwr Siartredig ac fe ddechreuodd ei yrfa mewn rheoli ystadau ac ymgynghoriaeth eiddo yn y sector breifat cyn symud i lywodraeth leol yn 2003.  Mae ei benodiad yn cynrychioli dechrau pennod newydd gyffrous i Grŵp Barcud.

Yn ei swyddi blaenorol yng Nghyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin, enillodd Jason brofiad helaeth tu hwnt mewn rheoli ystadau, rheoli prosiectau eiddo, adfywio, digidol, a pholisi. Mae ganddo hanes o arweinyddiaeth strategol lwyddiannus yn cynnwys timau mawr ac amrywiol a rheoli cyllidebau ariannol sylweddol. Mae profiad Jason o adfywio’n cynnwys cefnogi twf economaidd mewn cymunedau gwledig a hybu’r Gymraeg.  Mae’r profiad hwn yn gweddu’n dda i amcan cymdeithasol Barcud sydd â’i ffocws ar denantiaid.

Adeg pryderon cynyddol am yr argyfyngau tai a chostau byw yng Nghymru, mae’r penodiad cyffrous hwn yn Barcud yn gosod y gymdeithas mewn lle cryf i fynd benben i’r afael â’r problemau enbyd hyn yn y cymunedau gwledig. Mae Barcud yn barod i arwain y ffordd mewn ymdrin â heriadau fforddiadwyedd, prinder cyflenwad tai ac anghydraddoldeb incwm. Drwy wneud yn fawr o atebion arloesol a meithrin cydweithrediad â rhanddeiliaid, bydd Jason yn arwain Barcud yn ei genhadaeth i ddarparu datrysiadau tai cynaliadwy a chefnogaeth i unigolion a theuluoedd ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, gan sicrhau bod y gymdeithas yn aros yn y rheng flaen mewn ymdrechion i greu tirwedd dai wytnach.