PENODI CADEIRYDD NEWYDD I’R GRŴP

Mae Barcud yn falch o gyhoeddi bod Alison Thorne wedi’i phenodi  yn Gadeirydd Bwrdd newydd i’r Grŵp, a bydd yn ymuno â’r  gymdeithas ddechrau mis Ebrill 2023. 

Mae gan Alison wybodaeth werthfawr fel aelod bwrdd profiadol dros ben, ac mae ganddi hanes rhagorol o gyflawni swyddi arwain. Mae ei safbwynt amrywiol a’i gallu pendant i feddwl yn strategol yn golygu ei bod yn unigolyn delfrydol i arwain ein Bwrdd Cyfarwyddwyr wrth i ni barhau i dyfu ac addasu mewn diwydiant sy’n newid yn gyflym.

Mae Alison Thorne yn Gadeirydd, yn Gyfarwyddwr Anweithredol, yn Ymddiriedolwr ac yn aelod o Bwyllgorau, a hi yw sylfaenydd ‘atconnect’, sef cwmni datblygu busnes a phobl.

Mae wedi dilyn gyrfa gorfforaethol ryngwladol ym maes manwerthu ac mae ei swyddi’n cynnwys bod yn aelod o fyrddau gweithredol Mothercare, George at Asda ac Otto UK a bod yn arweinydd gweithredol yn Kingfisher a Storehouse, lle’r oedd yn arbenigo ym maes Gweithrediadau, Prynu, Marchnata a Chyrchu.

Yna, aeth ei gyrfa â hi i faes recriwtio swyddogion gweithredol. Roedd yn bartner mewn cwmni recriwtio bwtîc i ddechrau, cyn iddi sefydlu ‘atconnect’, sef busnes sy’n cynorthwyo cwmnïau i greu timau llwyddiannus drwy recriwtio swyddogion gweithredol a gwneud gwaith mentora mewn sectorau megis y cyfryngau, manwerthu, tai, gofal iechyd a’r sector digidol.

Mae Alison hefyd wedi datblygu gyrfa fel Swyddog Anweithredol. Roedd yn arfer bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol i Thought Provoking Consulting, yn Ymddiriedolwr i’r Tropical Forest Trust (sy’n ymwneud â rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy) ac yn Ymddiriedolwr ac yna’n Gadeirydd i Chwarae Teg (sef prif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb).

Page | 1/3 

Mae’n Aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru, lle mae’n cadeirio’r Adolygiad Cyfleusterau, ac mae’n un o Lywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Alison yn adeiladu ar ei gwaith ym maes cydraddoldeb drwy fod yn Arweinydd Cymru ar gyfer Women on Boards, ac mae’n Aelod o’r Panel Annibynnol ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cymru.

Hoffai Grŵp Barcud achub ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i ddau gyn-Gadeirydd am eu gwaith caled a’u harweiniad. Mae John Jenkins wedi gwasanaethu gydag ymroddiad ac wedi gwneud cyfraniadau amhrisiadwy yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Rydym wedi profi llawer o lwyddiant dan ei arweiniad yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym yn ddiolchgar am ei ymrwymiad i strategaeth a gweledigaeth ein cwmni.

Diolch hefyd i Dafydd Lewis a gymerodd yr awenau ar ôl i John adael ddechrau’r flwyddyn. Mae Dafydd, sy’n gyn-Gyfarwyddwr Corfforaethol ym maes llywodraeth leol ac yn gyn Gadeirydd Grŵp Cynefin, wedi cynnig cefnogaeth a sefydlogrwydd yn ystod y broses recriwtio, a bydd yn parhau’n aelod gwerthfawr o Fwrdd Barcud.

Wrth i ni groesawu Alison, rydym yn hyderus y bydd ei harbenigedd, ei harweiniad a’i gweledigaeth yn sicrhau y byddwn mewn sefyllfa dda i barhau i lwyddo a thyfu yn Barcud.