Mae Barcud yn falch o gyhoeddi ei fod wedi’i restru fel un o’r rownd derfynol yng Ngwobrau Eiddo Cymru 2022.

Mae’r datblygiad ym Maes Corton, Llanandras gan Barcud mewn cydweithrediad â Penseiri Hughes, SJ Roberts Construction a Morris, Marshall a Poole wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Datblygiad Preswyl y Flwyddyn.

Mae’r rhestr, a gyhoeddwyd ar 26 Mai, yn amlygu’r prif ddatblygiadau ac yn rhoi cydnabyddiaeth i’r bobl, y cwmnïau a’r cwmnïau proffesiynol a wnaeth iddynt ddigwydd.

Mae Barcud yn falch iawn o fod ar y rhestr fer ar gyfer y datblygiad rhagorol hwn, un o’n prosiectau blaenllaw yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae tîm datblygu Barcud yn gweithio’n galed i sicrhau bod datblygiadau tai newydd yn dwyn ffrwyth i ddiwallu’r angen am dai fforddiadwy o safon uchel yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Cyhoeddir enillwyr y gwobrau yng nghinio Gwobrau Eiddo Cymru ar 23 Mehefin 2022 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.