Creuddyn yn agor ei ddrysau i fusnesau lleol

Mae canolfan fusnes newydd yn Llanbedr Pont Steffan wedi cael ei hagor yn swyddogol yr wythnos hon at ddefnydd y gymuned a busnesau.

Cafodd canolfan Creuddyn ei hagor gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, ar 4 Tachwedd 2021 mewn araith a oedd wedi’i recordio oherwydd nad oedd modd iddo fynychu’n bersonol.

Roedd yr Aelod o’r Senedd dros etholaeth Ceredigion, Elin Jones AS, yn bresennol yn yr agoriad.

Mae Creuddyn yn adeilad o’r radd flaenaf sy’n cynnig unedau ar gyfer busnesau lleol, y sector gofal cymdeithasol a mudiadau elusennol a bydd yn berffaith ar gyfer busnesau newydd sy’n chwilio am leoliad yn y dref. Bydd yn gyfleuster cymunedol newydd a chyffrous a fydd yn dod â phobl ynghyd, yn helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, yn cynnal swyddi, yn darparu cyfleoedd o ran hyfforddiant ac yn cynnig lleoliadau i fentrau cymdeithasol.

Meddai Cadeirydd Barcud, John Jenkins: “Rydym wrth ein bodd o weld dros dair blynedd o waith yn dwyn ffrwyth wrth i’r safle allweddol hwn yn Llanbedr Pont Steffan gael ei agor. Yn ogystal â diolch i’n cyllidwyr, hoffwn ddiolch a rhoi teyrnged i’r tîm dylunio a’r contractwr lleol sydd wedi helpu i wireddu ein gweledigaeth. Bydd Creuddyn yn darparu adeilad datblygu mentrau, a fydd yn hybu’r gwaith o adfywio’r dref, yn creu cyfleoedd newydd o ran hyfforddiant a chyflogaeth ac yn cyfrannu at ddatblygu’r economi sylfaenol leol. Mae Creuddyn yn elfen ganolog o’n cynlluniau i ddarparu cyfleoedd o ran ‘hyfforddiant sy’n arwain at waith’ ac i ddatblygu mentrau cymdeithasol. Bydd hefyd yn gwella’r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn partneriaeth agos ag ysgolion lleol, colegau technegol a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.”

Cafodd cyllid ei ddarparu ar gyfer y cynllun gwerth £3.1 miliwn gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£1.53 miliwn) drwy Gyngor Sir Ceredigion, a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy WEFO a Barcud.

Cafwyd cymorth gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru o safbwynt blaenoriaethu’r prosiect i gael cyllid gan Flaenoriaeth 4 Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chyd-gadeirydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Mae cefnogi’r gwaith o ddatblygu Creuddyn yn rhan o flaenoriaethau corfforaethol allweddol y Cyngor, a fydd yn helpu i hybu’r economi. Rydym yn credu’n bendant bod buddsoddi mewn gweithgarwch economaidd yn ein trefi yn hanfodol er mwyn eu gwneud yn fannau mwy bywiog ac yn fannau llewyrchus i bobl fyw, gweithio ac ymlacio ynddynt. Mae’n braf gweld bod datblygiadau fel hyn wedi cael budd o’r cyllid a gafodd ei flaenoriaethu’n rhanbarthol gan Bartneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru ers iddi gael ei ffurfio yn 2015. Hoffwn ddymuno pob lwc a llwyddiant i unrhyw fusnes newydd a busnes sy’n tyfu, sy’n ddigon ffodus o fod wedi’u lleoli yng nghanolfan Creuddyn.”

Diben craidd y datblygiad yw ysgogi adfywiad yn nhref Llanbedr Pont Steffan drwy ddarparu lleoedd modern a charedig i’r amgylchedd i feithrin busnesau yn yr ardal, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol.

Meddai Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedyn: “Os ydym am lwyddo i achub canol ein trefi, mae angen ymyrraeth gydgysylltiedig radical arnom.

“Mae Creuddyn yn enghraifft wych o’r modd y mae ymyrraeth o’r fath yn gweithio – bydd y ganolfan fusnes newydd nid yn unig yn helpu i ddod â swyddi a gwasanaethau gwell yn nes at adref, ond hefyd yn helpu i hybu’r economi leol ac yn cael effaith gadarnhaol ar y newid yn yr hinsawdd drwy alluogi pobl i gael mynediad i swyddi a gwasanaethau heb fod angen car arnynt.”