Help gyda chostau olew a nwy petrolewm hylifedig

Bydd pobl sy’n cael trafferth gwresogi eu cartrefi yng Nghymru yn cael cymorth ariannol ychwanegol wrth i’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol olygu bod prisiau tanwydd ledled y byd yn dal i gynyddu.

Gall miloedd o aelwydydd yng Nghymru gael help gyda chostau olew a nwy petrolewm hylifedig (LPG).

Gall y sawl sy’n dioddef caledi ariannol difrifol gael cymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol. Mae’r dyfarniad uchaf ar gyfer olew gwresogi wedi’i gynyddu i £750, a gall pobl wneud cais hyd at ddwywaith mewn cyfnod o 12 mis erbyn hyn. Mae hynny’n cydnabod y gallai rhai aelwydydd a gafodd gymorth yn gynharach yn ystod y gaeaf gael trafferth unwaith eto wrth i brisiau barhau’n uchel. Gellir gwneud ceisiadau drwy Barcud.

▶ Bydd angen i denantiaid gysylltu â Barcud pan fydd angen olew arnynt

▶ Bydd Barcud yn cwblhau’r cais am gymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol

▶ Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn anfon taliad yn uniongyrchol i’r tenantiaid a fydd wedyn yn trefnu bod y darparwr y maent wedi’i ddewis yn dosbarthu olew iddynt

▶ Bydd angen i denantiaid sicrhau eu bod yn cael derbynneb, rhag ofn y bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn cysylltu â nhw’n nes ymlaen i ofyn am brawf bod olew wedi’i ddosbarthu iddynt

▶ Bydd hyn yn digwydd yn ôl y galw pan fydd angen rhagor o olew arnynt