Mae dyfodol gardd ym Mhenparcau i goffáu rhoddwyr organau yn ddiogel, oherwydd mae cymdeithas dai Barcud wedi camu i’r adwy i’w rheoli mewn partneriaeth â Mind Aberystwyth a fydd yn helpu gyda’r dyletswyddau garddio.
Alan a Teresa Wilkin wnaeth sefydlu’r ardd sy’n coffáu rhoddwyr organau, sef yr ardd gyntaf o’i math yng Nghymru, gyda help busnesau lleol a’r gymuned yn 2013. Yn anffodus, collodd y ddau ei merch yn 2010 oherwydd ymlediad yn yr ymennydd, a hithau ond yn 34 oed. Mae’r ardd yn dathlu bywyd, ac mae’r gymuned yn gwneud llawer o ddefnydd ohoni.
Mae Alan a Teresa yn bensiynwyr erbyn hyn ac yn methu â gwneud cymaint o waith corfforol, felly gwnaethant ofyn i Barcud a fyddai’n fodlon mabwysiadu’r ardd goffa. Bydd y ddau’n dal i helpu gymaint ag y gallant, a byddant yn dal i rannu’r neges am yr angen i siarad ag anwyliaid am yr hyn a ddylai ddigwydd pe baent yn marw, ac am bwysigrwydd rhoi organau.
Meddai Catrin Owen, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Phartneriaethau yn Barcud, “Roeddem yn fwy na pharod i helpu pan ofynnodd Alan a Teresa i ni fabwysiadu’r ardd, ac rydym wedi cytuno’n swyddogol i gadw’r ardal yn ardd i goffáu rhoddwyr organau. Roeddwn yn arfer bod yn Gadeirydd ac yn un o Ymddiriedolwyr Mind Aberystwyth, ac roeddwn am i’r elusen ymwneud â chynnal a chadw’r ardd. Bydd y bartneriaeth hon yn un gadarnhaol iawn y bydd defnyddwyr gwasanaeth Mind a Mr a Mrs Wilkin yn elwa ohoni.”
Meddai Mr a Mrs Wilkin, “Rydym yn 83 ac yn 75 oed, felly cytunwyd ei bod yn bryd i ni gysylltu â Barcud i ofyn a fyddai’n fodlon mabwysiadu’r ardd. Mae’n rhyddhad mawr i ni. Rydym wedi bod yn cynnal a chadw’r ardd ers 12 mlynedd erbyn hyn, ac rydym wrth ein bodd yn gwneud hynny. Byddwn yn dal i helpu tra gallwn ni. Hoffem ddiolch o galon i bawb dan sylw.
“Byddwn yn parhau â’n cenhadaeth fel hyrwyddwyr rhoi organau. Y genhadaeth hon wnaeth ein galluogi i ymdopi â cholli ein merch hyfryd. Drwy’r drasiedi, daeth cysur a gobaith o’r adnewyddu a’r cysylltu sy’n deillio o roi bywyd i eraill. Mae marwolaeth a rhoi organau wedi bod yn bynciau tabŵ am amser rhy hir. Rydym wedi dysgu bod marwolaeth yn rhan o fywyd, ac rydym yn gobeithio gwneud pobl eraill yn ymwybodol o hynny hefyd. Mae’n rhywbeth sy’n digwydd i bob un ohonom, a does dim dianc rhagddo.”
Mae mwy o wybodaeth am roi organau i’w chael ar y wefan swyddogol: www.organdonation.nhs.uk
Mae Mind Aberystwyth yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu i wneud mân dasgau cynnal a chadw yn yr ardd. Maent yn cwrdd yno bob yn ail ddydd Llun am 11am. Os yw eich amser yn brin, mae hanner awr yn unig yn gallu gwneud gwahaniaeth. Gofynnir am gymorth unrhyw un sydd am roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, mwynhau ychydig o awyr iach neu gwrdd â phobl newydd.
Mae Mr a Mrs Wilkin yn eistedd y naill ochr a’r llall i Ffion Evans, sef Swyddog Tai Barcud ar gyfer yr ardal dan sylw. Nicola Carton o Mind Aberystwyth sydd ar ei thraed.



