Cafodd diwrnod llwyddiannus o hwyl i’r teulu ei gynnal yn ddiweddar gan gymdeithas dai Barcud ac SJ Roberts Construction Ltd er mwyn dathlu bod eu datblygiad o 33 o gartrefi fforddiadwy newydd ym Mhenparcau yn Aberystwyth, sy’n werth £7.5 miliwn, ar fin cael ei gwblhau.
Cafodd tenantiaid lleol Barcud eu gwahodd i gael hwyl, cymryd rhan mewn gweithgareddau a mwynhau bwyd a diod am ddim wrth iddynt gwrdd â’u cymdogion a dod i adnabod ei gilydd. Roedd cydweithwyr o Barcud wrth law hefyd i ateb cwestiynau, cynnig cyngor a chael sgwrs gyfeillgar.
Roedd Deina Hockenhull, Cyfarwyddwr Grŵp Pobl a Mewnwelediadau Grŵp Barcud, yn falch o weld bod cymaint o deuluoedd wedi mynychu’r diwrnod o hwyl i’r teulu. Meddai Deina, “Diolch i bawb a ddaeth i’n helpu i ddathlu bod ein datblygiad newydd gwerth £7.5 miliwn ym Mhenparcau ar fin cael ei gwblhau. Diolch yn arbennig i’r prif gontractwyr, SJ Roberts Construction Ltd, am gytuno i gynnal y diwrnod o hwyl i’r teulu gyda ni. Roedd yn braf gweld pobl o bob oed yn mwynhau, yn cymryd rhan ac yn dod i adnabod eu cymdogion. Rydym yn bwriadu trefnu mwy o ddiwrnodau o hwyl fel hyn er mwyn i’n tenantiaid gymdeithasu â’i gilydd a defnyddio’r cyfle i siarad â’n cydweithwyr yn Barcud mewn awyrgylch hamddenol.”
Cynhaliodd RAY Ceredigion sesiynau chwarae, daeth Ceredigion Actif ag offer tennis a saethyddiaeth er mwyn i bobl o bob oed roi cynnig ar y gweithgareddau hynny, bu Siani Sionc yn canu ac yn dawnsio gyda’r teuluoedd, ac roedd castell bownsio, gweithgareddau celf a chrefft a bwyd a diod am ddim ar gael yn Hwb Cymunedol Penparcau.
Mae Barcud wedi trawsnewid hen safle Lôn Piercefield yn Aberystwyth er mwyn darparu datblygiad preswyl o safon, a fydd yn darparu cartrefi y mae eu hangen yn fawr ar gyfer y gymuned leol ac a fydd yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwrw gwreiddiau yn eu cymuned.
Mae’r 33 o gartrefi fforddiadwy newydd ar fin cael eu cwblhau ym Maes Gwenallt, Penparcau, Aberystwyth, Ceredigion. Mae’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai, fflatiau a byngalos ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely. Mae’r preswylwyr wrthi’n cael eu dewis a byddant yn dechrau symud i mewn tua diwedd mis Medi.
Bydd ail gam y datblygiad, a fydd yn darparu 16 o gartrefi eraill, ynghyd â llwybr teithio llesol a fydd yn cysylltu’r datblygiad â Llwybr Ystwyth, yn cael eu cwblhau yn ystod 2027.
Roedd Mike Sambrook, Rheolwr Gyfarwyddwr yn SJ Roberts Construction Ltd, yn falch o ymwneud â’r diwrnod o hwyl i’r teulu oherwydd bod gweithio gyda chymunedau lleol yn elfen allweddol o brosiectau adeiladu’r cwmni. Meddai Mike, “Mae gweithio gyda’r cymunedau lleol yr ydym yn datblygu cartrefi newydd ynddynt yn rhan bwysig o sut yr ydym yn gweithredu. Yn fuan ar ôl dechrau adeiladu ym Mhenparcau, aethom i ymweld â’r ysgol gynradd leol i esbonio i’r plant beth yr ydym yn ei wneud, sut mae cadw’n ddiogel ar y safle, a pha swyddi amrywiol sy’n rhan o ddatblygiad o’r math hwn.”
Mae’r llun o gynrychiolwyr cymdeithas dai Barcud ac SJ Roberts Construction Ltd yn cynnwys, o’r chwith i’r dde: Elgan Roberts a Bethan Walford o SJ Roberts Construction Ltd; Deina Hockenhull, Llyr Edwards a Sara Woodall, Cyfarwyddwyr gyda Grŵp Barcud; Paul Lund, Will Lynch a Neil Jones o SJ Roberts Construction Ltd.



