EOM wrth ei fodd ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnes Powys

Mae EOM (Electrical Contractors) Ltd, sy’n un o ddarparwyr mwyaf blaenllaw gwasanaethau trydan, nwy, plymio, a chynnal a chadw cyffredinol yn y canolbarth, yn dathlu’r ffaith ei fod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnes Powys 2026, yn y categori Partneriaeth Busnes-Addysg.

Mae EOM yn gwmni masnachu annibynnol yn y Drenewydd ac yn un o is-gwmnïau Grŵp Barcud. Mae’n cynnig ystod eang o wasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw i’r sector cyhoeddus ac i gartrefi preifat.

Mae EOM yn hen gyfarwydd â llwyddo yng Ngwobrau Busnes Powys. Cyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2025, enillodd y categori Datblygu Pobl yn 2024, ac enillodd y categori Twf Busnes Bach yn 2023.

Mae’r Wobr Partneriaeth Busnes-Addysg yn cydnabod arfer gorau a chydweithio rhwng cyflogwr a sefydliad addysgol.

Meddai Mike Mills, Rheolwr Cyffredinol EOM, “Roeddem wrth ein bodd o gael ein cydnabod unwaith eto’n un o’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Busnes Powys. Mae EOM yn ymfalchïo yn ei ethos o gynnig cyfleoedd i bobl ifanc ym Mhowys drwy ddarparu lleoliadau profiad gwaith a phrentisiaethau.”

“Yr allwedd o safbwynt rhoi’r ethos hwnnw ar waith yn llwyddiannus yw’r cydberthnasau agos, buddiol i bawb, y mae EOM wedi’u meithrin â sefydliadau addysgol megis Grŵp Colegau NPTC, Ysgol Uwchradd y Drenewydd, Ysgol Uwchradd Llanidloes a Choleg Cymunedol Bishop’s Castle. Mae EOM hefyd mewn cysylltiad rheolaidd â Gyrfa Cymru, Myrick Training, Academi Sgiliau Cymru, Coleg Cambria a Phrifysgol Aberystwyth.”  

Cafodd EOM Electrical Contractors Ltd (EOM) ei sefydlu yn 1995 gan grŵp o drydanwyr yn y canolbarth, a heddiw mae’n cyflogi 44 aelod o staff. Mae wedi ymrwymo i ddiogelu a datblygu ei staff, ac ar hyn o bryd mae’n cynnig cyfle i’w holl aelodau o staff gael hyfforddiant wedi’i deilwra fel eu bod yn gallu datblygu eu gyrfa’n unol â’u dyheadau personol ac yn unol â’r cynllun busnes.

At hynny, mae EOM wedi ymrwymo i ddatblygu unigolion drwy brentisiaethau. Mae wedi creu cysylltiadau agos â Grŵp Colegau NPTC ac mae’n cynnig cyfleoedd o ran profiad gwaith i ysgolion lleol. Ar hyn o bryd, mae gan EOM chwe phrentis ym maes gwaith trydanol, gwaith plymio a gwaith saer, sydd wedi cyrraedd gwahanol gamau ar hyd eu siwrnai, ac mae’n parhau i fod yn eiriolwr brwd dros brentisiaethau.

Mae 28 o fusnesau a sefydliadau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes Powys eleni y mae cymaint yn awyddus i’w hennill. Cafodd enwau’r sawl sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y 10 categori eu cyhoeddi’n ddiweddar gan drefnydd y gwobrau, sef Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth a ddywedodd fod tasg y beirniaid wedi bod yn un anodd oherwydd bod cymaint wedi ymgeisio. Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod cinio’r gwobrau a gynhelir yn Aberhonddu nos Wener, 23 Hydref 2026.