Cyfarwyddwr Grŵp Barcud yn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru drwy blymio o’r awyr am y tro cyntaf!

Bydd Cyfarwyddwr Pobl a Mewnwelediadau Grŵp Barcud yn neidio allan o awyren ddiwedd y mis er mwyn helpu i godi arian i elusen y gymdeithas dai ar gyfer y flwyddyn, sef Ambiwlans Awyr Cymru!

Ddydd Sul 27 Medi, bydd Deina Hockenhull yn hedfan dros Benrhyn Gŵyr er mwyn plymio o’r awyr am y tro cyntaf. Roedd yr antur yn anrheg arbennig gan ei thri mab adeg ei phen-blwydd yn 50 oed yn ddiweddar.

Meddai Deina, “Gan fy mod yn ddigon dwl i blymio o’r awyr, meddyliais ei fod yn gyfle perffaith i godi arian i elusen Barcud ar gyfer eleni, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Os byddaf yn edrych braidd yn nerfus rhwng nawr a’r diwrnod y byddaf yn plymio o’r awyr, y rheswm am hynny yw nad ydw i erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen! Byddwn yn wirioneddol ddiolchgar am unrhyw roddion tuag at yr elusen hanfodol hon. Rwy’n byw mewn ardal wledig iawn yng Ngheredigion, ac yn gwybod yn iawn pa mor bwysig yw cynnal y gwasanaeth hwn.”

Ymunodd Deina â Barcud yn 2024. Yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Pobl a Mewnwelediadau’r Grŵp, mae’n helpu i ddatblygu strategaeth sydd wedi’i hysgogi gan ddealltwriaeth er mwyn gwella’r modd y mae’r Grŵp yn ymgysylltu â thenantiaid ac yn darparu gwasanaethau. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn aelod gweithgar o grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol. Cafodd ei geni a’i magu yng Ngheredigion, felly mae’n deall ardal Barcud yn dda.

Mae Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin, ac mae ganddo 300 o weithwyr a 4,500 o denantiaid. Dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i’r Grŵp godi arian ar gyfer elusen benodol. Yn y gynhadledd flynyddol i gydweithwyr a gynhaliwyd yn ystod gaeaf y llynedd, roedd y mwyafrif o blaid cefnogi elusen a oedd, fel Barcud, yn helpu ac yn cefnogi pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.  

Gan fod poblogaeth Cymru mor wasgaredig a bod ei thirwedd mor amrywiol, mae llawer o’r trigolion yn byw mewn lleoliadau diarffordd sydd ymhell o unrhyw ysbyty mawr neu arbenigol. Mewn ardaloedd trefol, gall traffig trwm a gwrthdrawiadau olygu llawer o oedi cyn bod rhywun sydd mewn ambiwlans ar y ffordd yn cael triniaeth. Cydnabyddir, felly, bod angen i bedwar hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru fod ar ddyletswydd bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae angen i’r elusen godi £13 miliwn bob blwyddyn i weithredu’r gwasanaeth, ac mae’n gorfod codi’r holl arian sy’n ofynnol i redeg cerbydau a chanolfannau’r gwasanaeth o ddydd i ddydd. Mae pob taith yn costio tua £3,545, ac mae’r timau wedi cyflawni dros 57,000 ohonynt ledled Cymru ers 2001.

Meddai Emma Grant, Arweinydd Materion Cyhoeddus Ambiwlans Awyr Cymru, “Caiff Ambiwlans Awyr Cymru ei ariannu gan bobl Cymru; rydym yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gefnogaeth y cyhoedd i’w gwneud yn bosibl i’r hofrenyddion barhau i hedfan ac i’r cerbydau ymateb cyflym barhau i deithio. Caiff pob ceiniog o’r £13 miliwn sy’n ofynnol bob blwyddyn ei chodi drwy roddion elusennol, rhoddion mewn ewyllysiau, digwyddiadau codi arian, ein siopau, ac aelodaeth o’n Loteri Achub Bywydau ni ein hunain. Rydym yn ddiolchgar i Deina a Grŵp Barcud am ddewis ein cefnogi – rydych i gyd yn achub bywydau.”

Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion i helpu Deina a Barcud i gyrraedd y targed codi arian, sef £5,000. Gallwch glicio yma i gefnogi Deina ar-lein: https://www.justgiving.com/page/deina-hockenhull-1