Yn ei Adroddiad Blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae Grŵp Barcud wedi ymrwymo i greu busnes uchelgeisiol a blaengar sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu, ac ar ddarparu cymorth o ran tai a gwasanaethau cynnal a chadw/addasu hanfodol o’r radd flaenaf i denantiaid a phreswylwyr.
Mae’r Adroddiad Blynyddol yn datgan mai ffocws y 12 mis diwethaf oedd cryfhau’r modd y mae Grŵp Barcud yn cydweithio fel un sefydliad, er mwyn iddo allu gwasanaethu ei gymunedau’n well yn awr ac yn y dyfodol.
Meddai Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud, “Rydym yn falch iawn o’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae yna lawer i’w wneud o hyd, ond rydym yn hyderus y bydd y sylfeini a osodwyd gennym yn ein galluogi i gyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol yr ydym wedi’u nodi ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.
Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr y Grŵp, wedyn, “Rydym yn edrych ymlaen at ddal ati i gydweithio’n agos â’n tenantiaid, ein cydweithwyr a’n partneriaid, drwy barhau i fod yn agored ac yn dryloyw ym mhob peth a wnawn a thrwy ddarparu cartrefi a gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”
Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin ac yn cynnwys cymdeithas dai Barcud, Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM. Mae gan Grŵp Barcud 4,493 o gartrefi ledled Powys, Ceredigion, gogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, mae ganddo 936 eiddo arall sy’n cynnwys cartrefi rhanberchnogaeth, garejis a chartrefi rhentu i brynu.
Yn yr Adroddiad Blynyddol, mae Barcud yn egluro sut y mae wedi cyflawni ei bum amcan strategol:
- Sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf posibl o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni, yn y canolbarth a’r gorllewin. Mae darparu cartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni’n un o’n prif flaenoriaethau. Mae cartrefi o ansawdd da’n gwella iechyd a lles pobl, yn hybu cymunedau cryfach ac yn helpu i ddiwallu anghenion economaidd ac amgylcheddol y canolbarth a’r gorllewin.
- Bod yn landlord dwyieithog sy’n canolbwyntio ar ei denantiaid, sy’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r economi leol a chymunedau lleol, ac sy’n mynd i’r afael â digartrefedd. Mae Barcud yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hybu lles a sefydlogrwydd y bobl a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
- Bod yn gyflogwr cynhwysol o’r radd flaenaf, sy’n meithrin diwylliant cadarnhaol ac sy’n ymroi i ddatblygu ei weithwyr. Mae Grŵp Barcud yn cynnwys dros 300 o gydweithwyr, felly mae ein pobl yn ganolog i bopeth a wnawn. Mae eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb yn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaethau o safon y mae ein tenantiaid yn dibynnu arnynt.
- Bod yn sefydliad cynaliadwy, carbon isel. Mae Barcud wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon, darparu cartrefi fforddiadwy o safon a chreu cymunedau cynaliadwy.
- Bod yn sefydliad y mae ei lywodraethiant, ei sefyllfa ariannol a’i seilwaith digidol yn gadarn. Mae cryfder hirdymor Barcud yn dibynnu ar dri philer sy’n gysylltiedig â’i gilydd: llywodraethiant cadarn, gwydnwch ariannol cryf a seilwaith digidol modern. Dyma’r pethau sydd, gyda’i gilydd, yn creu’r sylfaen sy’n galluogi Barcud i ddarparu cartrefi diogel o safon sy’n bodloni disgwyliadau rheoleiddiol ac yn cynnig profiad ardderchog i denantiaid.
Mae Adroddiad Blynyddol dwyieithog Barcud ar gael i’w ddarllen yn llawn yn yr adran Dogfennau Corfforaethol ar ei wefan: www.barcud.cymru



