Grŵp Barcud yn lansio Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn

Mae Grŵp Barcud wedi lansio ei Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn sy’n egluro ymrwymiad i greu amgylchedd teg a chynhwysol i bawb – p’un a ydynt yn byw yn un o gartrefi Barcud, yn gweithio’n rhan o’r tîm neu’n ymwneud â Barcud fel partner neu ddefnyddiwr gwasanaeth.

Mae Barcud yn falch o wasanaethu cymunedau ar draws y canolbarth a’r gorllewin a chael bod yn rhan ohonynt – cymunedau sy’n amrywiol o ran eu cefndir, eu diwylliant, eu hiaith a’u profiad. Fel landlord, darparwr gwasanaethau a chyflogwr, mae Grŵp Barcud wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn wrth wraidd popeth a wna.

Meddai Catrin Owen, Pennaeth Ymgysylltu a Phartneriaethau Barcud, wrth lansio’r Strategaeth, “Rydym yn credu y dylai pawb, waeth beth fo’u hunaniaeth, eu cefndir neu’u hamgylchiadau, deimlo eu bod yn cael eu parchu, eu clywed a’u grymuso i ffynnu. I’n tenantiaid a’n cymunedau, mae hynny’n golygu y byddwn yn darparu gwasanaethau sy’n hygyrch, sy’n sensitif o safbwynt diwylliannol, ac sydd ar gael yn ddwyieithog. I’n cydweithwyr, mae’n golygu creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a’u cefnogi, lle caiff amrywiaeth ei gwerthfawrogi, lle caiff cynhwysiant ei hybu’n weithredol, a lle caiff y Gymraeg ei pharchu a’i hannog.”

Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin ac yn cynnwys cymdeithas dai Barcud yn ogystal â Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM. Fel Grŵp, mae’n ymroi i ddarparu tai fforddiadwy o safon a gwasanaethau sy’n gynaliadwy yn ariannol, sy’n effeithiol yn gymdeithasol ac sy’n ymateb i anghenion pobl.

Bydd y Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn yn cyflawni ar sail pedair prif thema:

  • Pobl a diwylliant – bydd Barcud yn meithrin diwylliant sy’n rhoi pobl yn gyntaf ac sy’n dathlu amrywiaeth, yn hybu cynhwysiant ac yn sicrhau bod pob cydweithiwr a chwsmer yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u grymuso i gyfrannu i gymuned deg sy’n ffynnu.
  • Cartrefi a gwasanaethau – bydd Barcud yn dylunio ac yn darparu cartrefi a gwasanaethau sy’n hygyrch, sy’n gynaliadwy ac sy’n ymateb i anghenion amrywiol ei gymunedau gan sicrhau bod gan bawb le diogel, cynhwysol a chroesawgar i fyw ynddo.
  • Partneriaethau – bydd Barcud yn creu partneriaethau cryf, cynhwysol sy’n adlewyrchu ac yn hyrwyddo ei ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn – gan gydweithio â chymunedau, sefydliadau, cyflenwyr a rhanddeiliaid i greu canlyniadau tecach i bawb.
  • Data a dealltwriaeth – bydd Barcud yn defnyddio data a dealltwriaeth i ddeall anghydraddoldebau, mynd i’r afael â nhw, mesur cynnydd a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n sbarduno gwelliant parhaus ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn ar draws popeth a wna.

Meddai Catrin Owen wedyn, “Rydym yn deall nad tasg i’w chyflawni unwaith yn unig yw creu sefydliad sy’n wirioneddol gynhwysol. Mae’n gofyn am fyfyrio, gweithredu ac atebolrwydd parhaus, a byddwn yn parhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod y gwaith yn esblygu i ddiwallu anghenion sy’n newid. Drwy ymgorffori cydraddoldeb, dathlu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant, ochr yn ochr â’n hymrwymiad i’r Gymraeg, ein nod yw creu cymunedau cryfach, tecach a mwy cydlynol ar draws y canolbarth a’r gorllewin.”

Mae copi o’r Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Pherthyn ddwyieithog ar gael i’w ddarllen yn llawn ar wefan Barcud: https://www.barcud.cymru/wp-content/uploads/2026/10/EDIB-Strategy-FINAL.pdf