Fforwm Llais Tenantiaid Barcud yn rhoi cyfle i denantiaid rannu eu barn

Mae cymdeithas dai Barcud yn awyddus i denantiaid rannu eu barn, eu profiadau a’u syniadau yn y Fforwm Llais Tenantiaid a gynhelir y mis hwn, er mwyn helpu i lunio gwasanaethau a ddarperir yn y dyfodol.

Mae gan Barcud dros 4,500 o gartrefi ar draws y canolbarth a’r gorllewin, ac mae’r Fforwm Llais Tenantiaid yn agored i bob un o’i denantiaid. Caiff ei gynnal ddydd Mercher 14 Hydref rhwng 10.30am a 2pm yn yr Hwb ym Mhenparcau, Aberystwyth.

Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin ac yn cynnwys cymdeithas dai Barcud yn ogystal â Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM. Fel Grŵp, mae wedi ymrwymo i greu busnes uchelgeisiol a blaengar sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu, ac ar ddarparu cymorth o ran tai a gwasanaethau cynnal a chadw hanfodol o’r radd flaenaf i denantiaid a chymunedau.

Meddai Deina Hockenhull, Cyfarwyddwr Pobl a Mewnwelediadau, “Mae cynnwys y tenantiaid yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau ymatebol o safon. Drwy wrando’n weithredol ar denantiaid a chreu cyfleoedd hygyrch iddynt gymryd rhan, byddwn yn dysgu mwy gyda’n gilydd ac, felly, yn gallu cryfhau ymddiriedaeth, gwella bodlonrwydd a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dylunio a’u darparu mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu anghenion a phrofiadau ar hyn o bryd.”

Bydd pedwar gweithdy’n cael eu cynnal yn rhan o’r Fforwm Llais Tenantiaid, a fydd yn ymdrin â’r canlynol:

· Gwasanaeth Atgyweirio Barcud – Gofynnir i’r tenantiaid rannu eu profiadau o’r gwasanaeth atgyweirio, er mwyn gweld a oes angen ei wella.

· Amcanion Strategol Barcud – Gofynnir i’r tenantiaid beth sy’n bwysig iddyn nhw o ran y blaenoriaethau a fydd yn llunio dyfodol Barcud.

· Gwefan newydd Barcud – Bydd y tenantiaid yn cael gweld gwefan newydd arfaethedig Grŵp Barcud, a gofynnir am eu barn amdani cyn iddi gael ei lansio, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio i denantiaid.

· Buddsoddi yng nghymunedau Barcud – Mae yna gyfle i ailfuddsoddi arian mewn mentrau sydd o fudd i gymunedau Barcud. Gofynnir i’r tenantiaid am eu barn ynglŷn â beth y gallai’r cyllid hwnnw ei gefnogi a beth sydd bwysicaf iddyn nhw.

Gofynnir i denantiaid Barcud gadw eu lle yn y Fforwm Llais Tenantiaid ymlaen llaw drwy gysylltu â’r Tîm Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 0300 111 3030. Gall Barcud helpu drwy ddarparu cludiant am ddim os oes angen. Bydd cinio am ddim yn cael ei gynnwys yn y digwyddiad, yn ogystal â chyfle am ddim i ennill gwobr, a gellir darparu help gyda chostau gofal plant os oes angen er mwyn i denantiaid allu mynychu.