Er gwaetha’r sychder, llwyddodd tenantiaid Barcud i greu arddangosfeydd hardd o flodau ar gyfer y Gystadleuaeth Lluniau o Erddi

Ni wnaeth tenantiaid cymdeithas dai Barcud sy’n arddwyr brwd adael i’r tywydd sych eu hatal rhag cynhyrchu arddangosfeydd ardderchog yn eu gerddi yn ystod yr haf ar gyfer y Gystadleuaeth Lluniau o Erddi, a gynhelir yn flynyddol.

Mae gan Barcud dros 4,500 o gartrefi, a rhannodd llawer o’r tenantiaid o bob cwr o’r canolbarth a’r gorllewin luniau o’u gerddi gwych er mwyn cael cyfle i ennill taleb gwerth £50 i’w gwario mewn canolfan arddio.

Meddai Sara Woodall, Cyfarwyddwr Cymunedau Barcud, “Llongyfarchiadau i’r enillwyr i gyd, a diolch i bawb a neilltuodd amser i dynnu llun o’u gardd a chymryd rhan yn y gystadleuaeth. Rydym yn credu’n gryf bod gardd liwgar a diddorol nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth i gartrefi’r bobl eu hunain ond hefyd yn fanteisiol i’r gymuned a’r amgylchedd lle mae pobl yn byw.”

Roedd aelodau Clwb Garddio’r Drenewydd wrth eu bodd o gael eu gwahodd i feirniadu Cystadleuaeth Lluniau o Erddi 2026. Roeddent yn sylweddoli iddi fod yn flwyddyn anodd i arddwyr oherwydd y cyfnod hir o dywydd sych a phoeth. Roeddent yn teimlo bod yna arddwyr dawnus a diwyd ymhlith preswylwyr Barcud, ac mae canlyniadau eu hymdrechion a’u hymroddiad yn hollol amlwg yn y lluniau y gofynnwyd iddynt eu beirniadu. Dylid llongyfarch pawb a gymerodd ran ar eu cyflawniadau; bu’n eithaf anodd dewis un enillydd yn unig ym mhob categori.

Dyma enillwyr y pedwar categori:

Arddangosfa flodau (gardd breifat) – Yr enillydd yw Miss Davies yn Aber-porth, Ceredigion. Yn ôl y beirniaid, roedd yn ddewis anodd ond roeddent yn teimlo bod yr ardd hon yn rhagori oherwydd tyfiant toreithiog amrywiaeth eang o blanhigion mewn gwelyau uchel a oedd wedi’u saernïo’n grefftus i greu lle tawel braf.

Basged grog, llestr neu flwch ffenestr – Yr enillydd yw Miss Michelle yn Llandysul. Meddai’r beirniaid, “Llestr hyfryd ac amrywiaeth da o flodau, lliw ac uchder. Roedd yn braf gweld y strwythur gwenyn ynddo hefyd i’n hatgoffa o bwysigrwydd peillwyr. Roedd yn cynnwys blodau agored y gallai pryfed ymweld yn hawdd â nhw.”                                

Gardd lysiau – Yr enillydd yw Mr Thomas o Lechryd, Aberteifi, oherwydd yr ystod eang o gnydau a gâi eu tyfu.

Gardd mewn cynllun byw’n annibynnol neu ardd gymunedol – Yr enillydd yw Mrs Jones o Lys Hen Ysgol, Aberystwyth. Cafodd yr ardd ei dewis oherwydd bod yr arddangosfa flodau mor siriol, llachar a chroesawgar. Mae’r basgedi crog a’r tybiau blodau yn gwneud y llwybr yn lliwgar ac yn llawn bywyd, ac maent yn ychwanegu lliw i’r ardal gyffredin.

Mae llun o Mr Thomas, enillydd y categori gardd lysiau, yn cael ei wobr.