Mae Grŵp Barcud bron wedi cwblhau 33 o gartrefi fforddiadwy newydd yn Aberystwyth yng Ngheredigion. Mae’r datblygiad £7.5 miliwn yn cynnwys cymysgedd o dai, fflatiau a byngalos ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely.
Bydd preswylwyr yn symud i mewn fis nesaf i ddatblygiad newydd Barcud o 33 o gartrefi fforddiadwy ym Maes Gwenallt, Penparcau, Aberystwyth.
Mae Barcud wedi trawsnewid hen safle Lôn Piercefield yn Aberystwyth er mwyn darparu datblygiad preswyl o safon, a fydd yn darparu cartrefi y mae eu hangen yn fawr ar gyfer y gymuned leol ac a fydd yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwrw gwreiddiau yn eu cymuned.
Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud, “Mae Barcud wrthi’n canolbwyntio ar ddatblygu cymysgedd o gartrefi fforddiadwy i’w rhentu sydd â deiliadaeth amrywiol. Mae buddsoddi yn y cymunedau lle mae’r angen mwyaf am dai fforddiadwy yn un o flaenoriaethau’r Grŵp, ac mae sicrhau bod y cartrefi hynny’n cyrraedd y safonau uchaf o ran ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’n un o’r gwerthoedd yr ydym i gyd yn ymfalchïo’n fawr ynddo. Mae’r datblygiad hwn yn Aberystwyth yn adlewyrchu ymrwymiad cryf Barcud i gynaliadwyedd, lefel isel o allyriadau carbon, a defnydd llai o ynni. Mae hynny’n sicrhau bod ein tenantiaid yn elwa o gartrefi effeithlon iawn sy’n barod ar gyfer y dyfodol, sy’n rhatach i’w rhedeg ac y mae eu hôl troed amgylcheddol yn well.”
Mae Grŵp Barcud wedi bod yn gweithio ar y datblygiad yn ystod y 24 mis diwethaf gyda’r prif gontractwr, sef S.J. Roberts Ltd, a gyda chymorth £5.6 miliwn o gyllid Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r 33 o anheddau wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern a oedd yn cynnwys ffrâm goed, panelau solar ffotofoltäig integredig, pwmp gwres o’r aer, system awyru fecanyddol a gwres dan y llawr, sy’n golygu eu bod wedi cael A fel sgôr ar gyfer Tystysgrif Perfformiad Ynni.
Bydd ail gam y datblygiad, a fydd yn darparu 16 o gartrefi eraill, ynghyd â llwybr teithio llesol a fydd yn cysylltu’r datblygiad â Llwybr Ystwyth, yn cael eu cwblhau yn ystod 2027.



