Mae pedwar person ifanc wedi cael cyfle i gael profiad gwaith gyda Grŵp Barcud dros yr haf eleni’n rhan o brosiect a arweinir gan dîm Canolfan Arloesi Adeiladwaith Cymru, sy’n rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth â’r tîm prentisiaethau yn Cyfle.
Mae’r prosiect lleoliadau gwaith cydgysylltiedig wedi’i anelu at bobl ifanc 16-24 oed sy’n byw yng Ngheredigion ac sydd â diddordeb mewn cael gwybod sut brofiad yw gweithio yn y sector adeiladu. Mae’r lleoliadau yn agored i bobl nad ydynt efallai wedi ystyried adeiladu fel opsiwn o ran gyrfa. Dyma eu cyfle i archwilio adeiladu trwy gyfrwng lleoliad gwaith pythefnos o hyd yn ystod yr haf eleni gyda chwmnïau lleol sy’n cynnwys Grŵp Barcud, mewn swydd crefftwr neu mewn rôl broffesiynol dechnegol.
Mae’r prosiect Codi Dyfodol Adeiladu wedi’i ddatblygu er mwyn tynnu sylw at yr ystod eang o yrfaoedd a gynigir gan yr amgylchedd adeiledig. Mae’r rheini yn cynnwys crefftau megis gwaith saer, gosod brics a phlastro yn ogystal â rolau proffesiynol technegol megis technoleg bensaernïol, rheoli adeiladu a mesur meintiau.
Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud, “Mae’n wych gweld y prosiect Codi Dyfodol Adeiladu yn cael ei lansio’n ffurfiol ac yn symud yn ei flaen yn dda. Mae Grŵp Barcud wrth ei fodd o gael bod yn rhan o’r fenter hon ar gyfer pobl ifanc, ac mae’n falch o allu ymrwymo i gefnogi pedwar lleoliad profiad gwaith ar gyfer prentisiaid mewn crefftau. Rydym yn falch o allu cyfrannu i’r prosiect o safbwynt crefftau ac o safbwynt rolau technegol/proffesiynol.”
Mae Codi Dyfodol Adeiladu yn cynnig 16 o leoliadau gwaith yn ystod yr haf eleni, hyd at ddechrau mis Awst, ac maent wedi’u rhannu yn lleoliadau i grefftwyr ac yn lleoliadau mewn rolau proffesiynol technegol. Gallai’r sawl sydd â diddordeb fod yn gweithio ar safle adeiladu’n dysgu beth y mae saer coed, gosodwr brics neu drydanwr yn ei wneud, neu’n cysgodi technolegydd pensaernïol neu reolwr adeiladu yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Bydd y lleoliad hefyd yn galluogi’r unigolyn i ddysgu am y cysylltiadau sydd rhwng amryw rolau yn y diwydiant ac i ddysgu am y modd y mae gwaith adeiladu’n newid, gan gynnwys pwysigrwydd ymgorffori cynaliadwyedd a sero net ar draws ein hamgylchedd adeiledig. Mae manylion llawn y prosiect i’w gweld yma: https://cwic.wales/cy/inspire-to-build-work-placements-in-ceredigion/
Erbyn hyn mae’r lleoliadau i grefftwyr wedi’u llenwi ar gyfer yr haf eleni, ond os hoffech wybod sut beth yw rôl broffesiynol dechnegol yn y sector mae ambell leoliad ar gael o hyd rhwng nawr ac 14 Awst. Ffoniwch 01792 481 273 neu anfonwch ebost i’r cyfeiriad canlynol: julie.evans@uwtsd.ac.uk
Mae Grŵp Barcud yn gweithio yng nghanolbarth a gorllewin Cymru ac mae ganddo weithlu sy’n cynnwys 300 o bobl. Mae Grŵp Barcud yn cynnwys cymdeithas dai Barcud yn ogystal â Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM, ac mae’n cynnig ei brentisiaethau ei hun i’r sawl sy’n awyddus i ddysgu wrth weithio.
Fel un o is-gwmnïau Grŵp Barcud, mae EOM yn cynnig ystod eang o wasanaethau yn y canolbarth a’r gorllewin, megis gwasanaethau contractio trydanol, gwaith ym maes data, nenfydau crog, gwasanaethau archwilio a phrofi, larymau tân a goleuadau argyfwng. Dros y pum mlynedd diwethaf, mae EOM wedi helpu 13 o brentisiaid i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth, trwy eu cyflwyno i weithle prysur. Mae’r prentisiaid wedi dysgu sgiliau sy’n berthnasol i grefftau penodol yn ogystal â dysgu sut mae ymddwyn yn broffesiynol a dod yn weithwyr proffesiynol yn eu rhinwedd eu hunain.
Mae llun o Marshall Owen a ymunodd ag EOM fel prentis yn 2021. Mae wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dda, diolch i’w waith caled, ei ymrwymiad a’i ymroddiad. Mae Marshall wedi llwyddo i ennill ei gymhwyster AM2 a’i gymhwyster NVQ3 mewn gosod systemau ac offer electrodechnegol.



