Mae tenantiaid cymdeithas dai Barcud sy’n arddwyr da’n cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadleuaeth lluniau o erddi yn ystod yr haf er mwyn dod o hyd i’r arddangosfeydd gorau o flodau.
Mae gan Barcud dros 4,500 o gartrefi ar draws y canolbarth a’r gorllewin, ac mae’n gwahodd ei holl denantiaid i rannu lluniau o’u gerddi gwych er mwyn cael cyfle i ennill taleb gwerth £50 i’w gwario mewn canolfan arddio.
Meddai Sara Woodall, Cyfarwyddwr Cymunedau Barcud, “Rydym i gyd yn gwybod bod garddio’n wych i’n hiechyd a’n lles, felly rydym am annog cymaint ag sy’n bosibl o’n tenantiaid i fynd allan i’r awyr agored ac i’w gerddi. Mae gardd liwgar a diddorol nid yn unig yn gwneud gwahaniaeth i’ch eiddo chi ond hefyd yn gallu bod o fudd i’r amgylchedd a’r gymuned yr ydych yn byw ynddi. Rydym am wobrwyo ein tenantiaid am eu hymdrechion yn eu gerddi.”
Gall tenantiaid Barcud ddewis o blith pedwar categori wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth arddio:
- Arddangosfa flodau (gardd breifat)
- Basged grog, llestr neu flwch ffenestr
- Gardd lysiau
- Gardd mewn cynllun byw’n annibynnol neu ardd gymunedol
Bydd enillydd pob categori’n cael taleb gwerth £50 i’w gwario mewn canolfan arddio a bydd y tenantiaid yn cymryd rhan drwy anfon llun o’u cais at Alisa Cakebread, Swyddog Cynnwys Tenantiaid yn Barcud. Rhaid i luniau gael eu hanfon heb eu bod wedi’u golygu yn ddigidol ond caniateir i’r tenantiaid docio llun, addasu lefel y golau ac eglurder y llun, a gwneud mân gywiriadau i’r lliwiau. Caiff y lluniau i gyd eu hanfon wedyn i Glwb Garddio’r Drenewydd, yn ddienw, er mwyn i aelodau’r clwb eu beirniadu a dewis yr enillwyr.
Mae Clwb Garddio’r Drenewydd yn teimlo ei bod yn fraint cael gwahoddiad i feirniadu’r gystadleuaeth unwaith eto eleni. Dywedodd yr aelodau ei bod yn bleser pur gweld canlyniadau’r gwaith caled yr oedd preswylwyr Barcud wedi’i wneud i greu arddangosfeydd lliwgar a llawn dychymyg yn yr amryw gategorïau llynedd. Roedd llynedd yn flwyddyn anodd i erddi oherwydd y gwres, ond cafwyd ceisiadau gwych a oedd yn dangos beth y gellir ei gyflawni hyd yn oed pan fydd y tywydd yn eich erbyn.
Yr amser a’r dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau yw canol dydd, ddydd Gwener 14 Awst. Rhaid i’r ceisiadau gynnwys enw a chyfeiriad y tenant, a’r categori y mae am gystadlu ynddo. Rhaid hefyd iddynt gynnwys uchafswm o dri llun ar gyfer pob cais. Gall y tenantiaid anfon eu ceisiadau drwy ebost i: alisa.cakebread@barcud.cymru neu argraffu’r lluniau a’u hanfon drwy’r post i: Alisa Cakebread, Barcud, Tŷ Canol House, Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL.
Mae llun o enillydd llynedd yn y categori ar gyfer cynlluniau byw’n annibynnol, sef Cynllun Byw’n Annibynnol Bro Teifi, Aberteifi.



