Mae gwerth dros £1.8 miliwn o welliannau i effeithlonrwydd ynni wedi’u gwneud gan Grŵp Barcud i 130 o’i gartrefi yn y canolbarth o ganlyniad i raglen Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO4) Llywodraeth y DU.
ECO4 yw fersiwn diweddaraf rhaglen effeithlonrwydd ynni Llywodraeth y DU, y bwriedir iddi leihau tlodi tanwydd ac allyriadau carbon drwy ariannu gwaith uwchraddio cartrefi. Mae cynllun ECO4 yn darparu grantiau ar gyfer gwaith inswleiddio, systemau gwresogi (e.e. pympiau gwres) a phanelau solar i aelwydydd ag incwm isel sydd mewn cartrefi aneffeithlon o ran ynni. Mae’r rhaglen yn rhoi cyfrifoldeb ar gyflenwyr ynni i roi mesurau ar waith sy’n helpu aelwydydd i leihau eu defnydd o ynni a lleihau costau gwresogi.
Drwy gynllun ECO4 a thrwy gydweithio’n agos ag ‘Eco Funding for Homes’, mae Barcud wedi llwyddo i osod:
- Systemau gwresogi cynaliadwy trydan, gan gynnwys panelau solar ffotofoltäig, ar 83 eiddo
- Panelau solar ffotofoltäig ar 47 eiddo arall
- Deunydd inswleiddio ychwanegol mewn llofftydd os oedd angen.
Meddai Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Cartrefi Diogel Barcud, “Mae defnyddio cynllun ECO4 wedi golygu bod gan fwy fyth o dai Barcud sgorau uwch ar gyfer effeithlonrwydd ynni yn awr. Mae’r gwaith uwchraddio o fudd i’n tenantiaid yn y pen draw, oherwydd mae’n arwain at filiau is ar gyfer cyfleustodau ac at lai o effaith amgylcheddol. Daeth cynllun ECO4 i ben ym mis Mawrth 2026, ond mae Barcud yn cadw llygad ar unrhyw fentrau newydd gan y Llywodraeth, a fydd o gymorth i’n tenantiaid.”
Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu, ac i ddarparu cymorth o ran tai a gwasanaethau cynnal a chadw hanfodol o’r radd flaenaf i denantiaid a chymunedau. Mae 76% (dros 3,300) o gartrefi Barcud yn perthyn i fandiau A, B neu C Tystysgrif Perfformiad Ynni.



