DATBLYGIADAU CYFFROUS YN YR YSTOG

Gall fod yn wirioneddol anodd i’r sawl sy’n awyddus i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain gael eu troed ar yr ysgol eiddo. Dyna pam yr oedd Barcud yn falch o weld rhagor o deuluoedd yn symud i mewn i’w cartref “Rhentu i Berchnogi” newydd ddechrau mis Rhagfyr.

Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r cynllun “Rhentu i Berchnogi”, sy’n rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus symud i mewn i gartref gyda’r bwriad yn y pen draw o brynu’r eiddo hwnnw. Mae’r cynllun yn galluogi tenantiaid i gynilo wrth rentu, sy’n golygu ei bod yn bosibl iddynt grynhoi’r blaendal sydd mor hanfodol a chael eu troed ar yr ysgol eiddo. Mae’r ymgeiswyr hefyd yn elwa o wybod y gallant gael mynediad i’r gwasanaethau cymorth o ran tai, sy’n cyd-fynd â bod yn un o denantiaid Barcud, ac y bydd y cartrefi y maent yn eu prynu yn gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o safon.

Meddai Jo Hughes, Swyddog Tai ar gyfer y Trallwng: “Mae’r broses “Rhentu i Berchnogi” wedi fy ngalluogi i ddod i adnabod ein hymgeiswyr a’u siwrnai yn dda, ac mae’r siwrnai honno wedi bod yn hir i rai. Roedd yna ymdeimlad gwirioneddol o gyffro ar y diwrnod pan oeddent yn symud i mewn, a oedd yn creu ymdeimlad gwirioneddol o gymuned a balchder ymhlith yr ymgeiswyr, y staff a’r contractwyr sydd wedi bod yn gweithio ar adeiladu’r cartrefi hyn.”

Meddai Gareth Turner, sy’n denant “Rhentu i Berchnogi”: “Ar ôl byw yn un o gartrefi Tai Canolbarth Cymru o’r blaen, roeddem yn gwybod beth i’w ddisgwyl a beth a ddisgwylid gennym ni, ac roedd symud o’n hen gartref i’n cartref newydd yn symlach o lawer felly.

“Mae’r cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn syniad gwych. Mae bron yn amhosibl i deulu ifanc gynilo er mwyn crynhoi swm gweddol o arian ar gyfer blaendal. Mae’r cynllun yn ein helpu i gynilo tipyn o arian heb fod yna demtasiwn i ddefnyddio rhywfaint o’r arian hwnnw i dalu am bethau eraill. Rydw i eisoes wedi awgrymu wrth ddau neu dri o ffrindiau a pherthnasau y dylent gymryd eiddo “Rhentu i Berchnogi”. Yn fy marn i, mae’n ffordd wych o gael eich troed ar yr ysgol eiddo.”

Sut mae’n gweithio?

Sut mae Rhentu i Berchnogi – Cymru yn gweithio

  • Byddwch yn rhentu’r cartref i ddechrau a byddwch yn gallu cael 25% o’r rhent a dalwyd dros gyfnod y denantiaeth a 50% o unrhyw gynnydd yng ngwerth yr eiddo dros y cyfnod y buoch yn ei rentu (os oedd unrhyw gynnydd) i’w ddefnyddio fel blaendal er mwyn prynu’r eiddo.
  • Bydd eich cytundeb Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para hyd at 5 mlynedd, a gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.

Nodyn olaf: Mae’r cartrefi hyn ymhlith rhai o’r cartrefi olaf a ariennir dan y cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru.

Am wybod mwy? Peidiwch ag oedi! Cysylltwch â’n hasiant MMP Homes ar 01938 554818.