
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y gyfraith ynghylch sut y mae tenantiaid yn rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Mae’r Ddeddf newydd yn berthnasol i landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol ar draws y wlad.
Mae’r newid yn digwydd ar 1 Rhagfyr 2022.
Bydd eich Cytundeb Tenantiaeth yn troi’n awtomatig yn Gontract Meddiannaeth a byddwch yn cael copi ohono ar gyfer eich cofnodion.
Ni fydd y newidiadau’n effeithio o gwbl ar eich rhent ac ni fyddant yn costio mwy i chi.
Beth y bydd y newidiadau’n ei olygu?
- Bydd gennych fwy o hawliau olyniaeth i drosglwyddo eich cartref
- Rhaid bod pob eiddo’n ddiogel ac yn ffit i fyw ynddo
- Rhaid i landlordiaid roi 2 fis o rybudd i denantiaid am unrhyw gynnydd yn y rhent
- Bydd modd i landlordiaid adennill meddiant o unrhyw eiddo y cefnwyd arno, heb orchymyn llys, cyhyd â bod ymchwiliadau wedi’u cynnal.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Ddeddf newydd, sef Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, mae croeso i chi anfon ebost i post@barcud.cymru neu ffonio 0300 111 3030
Contact Us