Bydd Cynorthwyydd Tai gyda Barcud yn cerdded dros lo poeth i godi arian i elusen

Mae Amanda Evans, sy’n Gynorthwyydd Tai gyda Barcud, yn ddewr dros ben oherwydd mae wedi cytuno i gerdded ar dân er mwyn helpu i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r elusen, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni, yn dibynnu’n gyfan gwbl ar roddion gan y cyhoedd i redeg ei cherbydau ymateb cyflym a’i hofrenyddion.

Mae’r her cerdded ar dân yn her gerdded noddedig sydd ychydig yn wahanol i’r arfer! Nid yw’n golygu cerdded yn bell, ond mae cwblhau’r her o gerdded pum metr yn droednoeth ar lo poeth sy’n cyrraedd tymheredd o hyd at 800°C yn gofyn am lawer o gryfder meddwl!

Nid yw Amanda wedi cwblhau her cerdded ar dân erioed o’r blaen, ond y llynedd newidiodd ei meddylfryd, ac ers hynny nid yw’r gair ‘na’ wedi bod yn rhan o’i geirfa. Meddai, “Mae ymgymryd â’r her cerdded ar dân yn swnio’n wych. Penderfynais y byddai’n sbort cofrestru ar ran Barcud er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru. Pam lai? Byddai’n braf cael torf yn yr her cerdded ar dân yn Aberaeron i ddangos cefnogaeth ac i roi hwb i fi.”

O ddydd i ddydd, mae Amanda yn gweithio yn swyddfa Barcud yng Nglyn Padarn, Aberystwyth. Mae’n gweithio’n rhan o dîm gyda swyddogion tai sy’n darparu cymorth i denantiaid.

Mae Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin, ac mae ganddo 300 o weithwyr a 4,500 o denantiaid. Dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i’r Grŵp godi arian ar gyfer elusen benodol. Yn y gynhadledd flynyddol i gydweithwyr a gynhaliwyd yn ystod gaeaf y llynedd, roedd y mwyafrif o blaid cefnogi elusen a oedd, fel Barcud, yn helpu ac yn cefnogi pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Meddai Gail Windley, Codwr Arian Digwyddiadau a Phartneriaethau Ambiwlans Awyr Cymru, “Mae’n bleser gennym lansio ein heriau cerdded ar dân eleni, yn ystod y flwyddyn arbennig pan fyddwn yn dathlu pen-blwydd yr elusen yn 25 oed. Bydd codwyr arian yn ymgymryd â’r her eithaf o gerdded ar lo poeth er mwyn helpu i achub bywydau ledled Cymru. Mae’n her wych ar gyfer pobl o bob gallu, ac mae ei chyflawni’n gofyn am dipyn o ddewrder.

“Nid oes angen i gerddwyr fod ag unrhyw brofiad blaenorol cyn cymryd rhan yn yr her cerdded ar dân, oherwydd bydd yr holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar y diwrnod. Rydym am bwysleisio na ddylai neb roi cynnig ar wneud y gweithgaredd hwn gartref, ac mai dim ond mewn digwyddiad wedi’i drefnu yn broffesiynol y dylai unrhyw un roi cynnig arno.

“Mae’r elusen yn dibynnu ar roddion i’w gwneud yn bosibl i’n hofrenyddion barhau i hedfan ac i’n cerbydau ymateb cyflym barhau i fod ar y ffyrdd. Bydd digwyddiadau codi arian, megis yr heriau cerdded ar dân, yn helpu i gynnal y gwasanaeth achub bywydau hwn ar gyfer pobl Cymru. Bydd yn ddiwrnod bythgofiadwy i’r sawl sy’n cymryd rhan, ac i’w cefnogwyr.”

Bydd Amanda yn ymgymryd â’i her cerdded ar dân yn y Moody Meadows ger Aberaeron o 6pm ymlaen nos Wener, 10 Gorffennaf 2026. Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion i gefnogi Amanda ac i helpu Barcud i gyrraedd ei darged codi arian, sef £5,000. Gallwch glicio yma i gefnogi Amanda ar-lein: https://firewalks.walesairambulance.com/amanda-evans