Grŵp Barcud yn lansio Strategaeth Pobl Hŷn sy’n ymrwymo i ddarparu cartrefi, gwasanaethau a chymorth er mwyn galluogi pobl hŷn i fyw’n dda

Mae Grŵp Barcud wedi lansio Strategaeth Pobl Hŷn sy’n nodi ymrwymiad i sicrhau bod gan bobl hŷn fynediad i gartrefi, gwasanaethau a chymorth sy’n eu galluogi i fyw’n dda yn ystod eu blynyddoedd hŷn a chynnal cartref sefydlog ac addas gyda’r gallu i greu rhwydweithiau cymunedol ehangach a chysylltu â nhw.

Meddai Cyfarwyddwr Cymunedau Barcud, Sara Woodall, wrth lansio’r Strategaeth, “Mae gan Grŵp Barcud rôl bwysig i’w chwarae yn y cymunedau y mae’n gweithio ynddynt, yng Ngheredigion a Phowys, oherwydd mae tystiolaeth yn dangos bod y ddemograffeg yn mynd yn gynyddol hŷn. Mae’n hollbwysig ein bod yn cynllunio’n awr ar gyfer y modd yr hoffem ddarparu cartrefi a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion presennol a disgwyliedig ein cymunedau hŷn. Wrth wneud hynny rydym yn deall, er mai Strategaeth Grŵp Barcud yw hon, y bydd yn rhaid i ni weithio mewn partneriaeth ag eraill i gyflawni nodau’r Strategaeth.”

Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin ac yn cynnwys cymdeithas dai Barcud yn ogystal â Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM. Fel Grŵp, mae wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a thai fforddiadwy o safon, sy’n gynaliadwy yn ariannol, sy’n sicrhau’r effaith fwyaf yn gymdeithasol, ac sy’n ymateb i anghenion pobl – heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae tenantiaid, aelodau Bwrdd a phartneriaid allanol Barcud wedi bod yn ymwneud â datblygu’r Strategaeth Pobl Hŷn dair blynedd. Nid yw o fwriad yn diffinio ‘hŷn’, ac ar sail argymhelliad y tenantiaid bydd yn galw llety tai gwarchod yn gynlluniau byw’n annibynnol.

At hynny, mae’r Strategaeth yn ymwybodol nad yw pobl hŷn yn un ‘grŵp homogenaidd’ ond y gallant gynnwys tair cenhedlaeth neu fwy y mae eu dymuniadau a’u dyheadau yn gallu amrywio’n helaeth. 

Bydd y Strategaeth Pobl Hŷn yn cyflawni ar sail pedair prif thema:

  • Iechyd, llesiant a chysylltedd cymdeithasol – Annog atal afiechyd a hybu iechyd gwell am gyfnod hirach. Cefnogi mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd drwy gysylltedd digidol a chymunedol.
  • Cynhwysiant digidol a chyfathrebu hygyrch – Adolygu pob sianel gyfathrebu o ran hygyrchedd. Cofio nad yw pawb am ymgysylltu’n ddigidol ond cydnabod bod hynny’n gallu darparu opsiynau mwy fforddiadwy.
  • Fforddiadwyedd a chynhwysiant ariannol – Parhau i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a fforddiadwyedd drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar adeiladau. Gwella ein gwasanaethau cynghori ar fudd-daliadau lles ac ynni.
  • Cyfleusterau a gwasanaethau addas i’w diben – Cynnal asesiadau o gynlluniau byw’n annibynnol presennol Barcud a chynllunio i uwchraddio i gyfleusterau modern.

Meddai Sara Woodall wedyn, “Mae sicrhau bod cartrefi a gwasanaethau Grŵp Barcud yn addas ar gyfer y dyfodol yng nghyd-destun demograffeg Cymru sy’n heneiddio yn hanfodol i’r gwaith o gyflawni amcanion strategol Barcud. Mae hynny’n sicrhau bod Barcud yn parhau’n grŵp effeithiol a blaengar. Drwy gryfhau ac ehangu’r gwasanaethau a gynigir gennym, gallwn hefyd wella effeithlonrwydd ac ymateb yn fwy effeithiol i anghenion tenantiaid a chymunedau wrth iddynt fynd yn hŷn.”