Mae Grŵp Barcud yn falch o gefnogi Eisteddfod y Garreg Las a gynhelir eleni yng ngogledd Sir Benfro, drwy noddi a chefnogi’r Prosiect Harddu.
Harddu yw prosiect addurno poblogaidd yr Eisteddfod, lle mae cymunedau’n dod ynghyd i groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru. Mae’n gyfle i bawb gymryd rhan, bod yn greadigol a dathlu ysbryd cymuned y Garreg Las.
Meddai Deina Hockenhull, Cyfarwyddwr Pobl a Mewnwelediadau Grŵp Barcud, “Rydym wrth ein bodd bod Barcud yn gallu noddi’r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Rydym o’r farn bod y gwaith rydym yn ei wneud a’r cartrefi rydym yn eu hadeiladu yn gweddu i’r cymunedau y mae’r Eisteddfod yn rhan ohonynt ac yn cefnogi’r cymunedau hynny. Mae’n wych ymwneud â rhywbeth sy’n dod â phobl ynghyd fel hyn. Yn ystod y cyfnod a fydd yn arwain at yr Eisteddfod Genedlaethol, byddwn yn gweithio gyda’n tenantiaid a chymunedau lleol i helpu i ledaenu’r neges ac i annog pawb i gymryd rhan, bod yn greadigol, ac ychwanegu ychydig o liw wrth i ni baratoi i groesawu Eisteddfod y Garreg Las i’n hardal.”
Bydd Eisteddfod Genedlaethol 2026 yn cael ei chynnal yng ngogledd Sir Benfro rhwng 1 ac 8 Awst 2026, 850 o flynyddoedd ers i’r ŵyl gyntaf gael ei chynnal yn 1176. Mae’r brifwyl ddiwylliannol Gymraeg, sy’n croesawu tua 175,000 o ymwelwyr i ran wahanol o Gymru bob blwyddyn, yn ddigwyddiad o bwys sy’n dathlu’r iaith Gymraeg, cerddoriaeth a llenyddiaeth Gymraeg a’r celfyddydau yng Nghymru.
Cyn y prif ddigwyddiad ym mis Awst, bydd penwythnos Harddu yn cael ei gynnal ar 4 a 5 Gorffennaf. Ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf, bydd pawb allan yn tacluso ac yn casglu sbwriel. Yna, ddydd Sul 5 Gorffennaf, bydd yn bryd gosod yr holl waith celf y mae pawb wedi’i greu i groesawu ymwelwyr i’r ardal.
Bydd Barcud yn cynorthwyo tenantiaid yn ardal yr Eisteddfod i addurno eu cartrefi a’u tir yn rhan o’r Prosiect Harddu.
Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, “Rydym yn falch o gael cefnogaeth Barcud ar gyfer y Prosiect Harddu eleni. Mae Harddu yn un o agweddau mwyaf poblogaidd ein paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod, ac mae’n dod â chymunedau ynghyd i greu croeso cynnes, lliwgar ac unigryw yn lleol ar gyfer ymwelwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt. Bydd ymrwymiad Barcud i weithio gyda thenantiaid a chymunedau yn yr ardal yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ac rydym yn ddiolchgar am frwdfrydedd a phartneriaeth Barcud. Edrychwn ymlaen at weld creadigrwydd ac ysbryd cymunedol y Garreg Las yn disgleirio wrth i ni baratoi ar gyfer yr Eisteddfod a gynhelir yn ystod yr haf.”
Mae manylion llawn am y Prosiect Harddu ac am Eisteddfod y Garreg Las ar gael ar y wefan: www.eisteddfod.cymru



