Aelod GPTB Anita dderbyniodd wobr genedlaethol gan Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan

Llongyfarchiadau i aelod o Grŵp Partneriaeth Tenantiaid Barcud, Anita Clasby, a dderbyniodd wobr genedlaethol gan Bobl yn Gyntaf Cymru Gyfan. Gwobr Mirror genedlaethol ydyw ac fe’i cyflwynwyd i Anita i gydnabod ei gwaith di-flino yn codi ymwybyddiaeth o effaith toriadau budd-daliadau.

Mae’r Grŵp yn falch iawn o Anita a’r holl y mae’n cyflawni fel aelod ffyddlon o’r Grŵp, yn denant Barcud a Chadeirydd ‘Our Voice Our Choice’, elusen hunan-eiriolaeth sy’n cynrychioli buddiannau cymuned Anabledd Dysgu Ceredigion.