
- er mwyn cael llais cryfach i denantiaid a’r maes tai ar draws y canolbarth a’r gorllewin
- er mwyn cynnal a gwella ansawdd gwasanaethau i denantiaid a chreu rhaglen ddatblygu well
- er mwyn cryfhau gwreiddiau’r ddau sefydliad yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu
- er mwyn gwarchod swyddi a gwasanaethau
- er mwyn creu sefydliad mwy cydnerth, sy’n gryfach yn ariannol, trwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd
A fydd fy nhenantiaeth yn newid?
Na fydd. Bydd y rhan fwyaf o denantiaethau yn aros yr un fath nes y bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 Llywodraeth Cymru yn dod i rym. Bydd y rhan fwyaf o denantiaethau’n newid wedyn, ond ni fydd hynny’n newid y graddau yr ydych yn cael eich gwarchod.
A fydd ein rhent yn codi?
Ddim mwy nag y byddai wedi codi pe baech wedi aros gyda’ch landlord gwreiddiol.
Bydd eich rhent yn dibynnu ar arweiniad Gweinidogion Llywodraeth Cymru ar lefelau rhent, ac mae’r arweiniad hwnnw’n gallu newid.
A fydd ein taliadau gwasanaeth yn codi?
Ni fydd taliadau gwasanaeth yn codi fwy nag y byddent wedi codi pe baech wedi aros gyda’ch landlord gwreiddiol.
Gall taliadau gwasanaeth godi neu ostwng yn flynyddol oherwydd newidiadau mewn costau darparu gwasanaethau, y prisiau a geir ar gyfer contractau a/neu newidiadau i’r fanyleb ynghylch y gwasanaethau sydd i’w darparu neu ynghylch ansawdd y gwasanaeth, ar ôl ymgynghori â’r tenantiaid a’r lesddeiliaid y mae’r newidiadau yn effeithio arnynt.
A fyddaf yn ffonio’r un rhif ar gyfer gwaith atgyweirio?
Byddwch, ar y cyfan. Bydd pob rhif yn dal i gael ei ddefnyddio ond byddwn maes o law’n symud i ddefnyddio 0300 111 3030 yn unig.
A fyddaf yn ymwneud â’r un staff?
Bydd y rhan fwyaf o denantiaid yn ymwneud â’r un staff, ond mae’n bosibl y bydd rhai tenantiaid yn gorfod ymwneud â staff gwahanol oherwydd newid ym maint yr ardaloedd y mae staff yn gyfrifol amdanynt.
Sut yr ymdrinnir ag addasiadau ar gyfer pobl anabl yn y dyfodol?
Bydd mân addasiadau’n parhau i gael eu gwneud gan ein gwasanaeth mewnol, a bydd Barcud yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol perthnasol i gael grantiau addasu ar gyfer gwaith mawr.
A fyddwch yn parhau i adeiladu eiddo sy’n gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?
Byddwn, os oes angen wedi’i nodi ac er mwyn bodloni’r angen am eiddo o’r fath yn y dyfodol.
Sut y bydd tenantiaid yn parhau i gael eu cynnwys?
Bydd yr holl waith presennol sy’n ymwneud â chynnwys tenantiaid yn parhau, ond caiff ei drafod â chynrychiolwyr a grwpiau tenantiaid yn rhan o’r adolygiad ehangach o gyfranogiad tenantiaid.