Gwaith buddsoddi cyfalaf yn dechrau ar gartrefi Barcud yn Nhal-y-bont, Ceredigion

Yn ddiweddar, dechreuodd cymdeithas dai Barcud ar waith buddsoddi cyfalaf mewn cartrefi ar ystâd Maes y Deri yn Nhal-y-bont, Ceredigion. Bwriedir i’r gwaith gael ei gwblhau ddechrau 2027.

Meddai Llyr Edwards, Cyfarwyddwr Cartrefi Diogel Barcud, “Mae’r gwaith ym Maes y Deri yn rhan o fuddsoddiad parhaus Barcud mewn datgarboneiddio ein stoc dai a gwella effeithlonrwydd ein cartrefi o ran ynni. Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ymrwymodd Barcud i fuddsoddi dros £1 filiwn o gyfalaf mewn gwelliannau o ran inswleiddio waliau allanol, a oedd yn cynnwys gwaith ar 16 o gartrefi ar draws Tan y Berth, Maes Seilo a Kingsmead.

“Mae’r buddsoddiad parhaus hwn yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi cynhesach a mwy effeithlon o ran ynni i’n tenantiaid. Drwy wella inswleiddio a lleihau’r gwres a gollir, gall y gwelliannau hyn helpu i ostwng biliau ynni cartrefi, gwella cysur thermol, a lleihau effaith ein cartrefi ar yr amgylchedd. Mae datgarboneiddio ein stoc dai’n flaenoriaeth allweddol i Barcud o hyd wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn gwella ansawdd, fforddiadwyedd a chynaliadwyedd hirdymor ein cartrefi.”

Mae’r gwaith buddsoddi cyfalaf yn yr eiddo’n cynnwys:

•  Llinellau toeau newydd, sy’n cynnwys gosod cafnau bargod ac ati a fentiau awyru

•  Cael gwared ar hen ddeunydd inswleiddio mewn waliau ceudod a gosod deunydd newydd yn ei le

•  Gosod deunydd inswleiddio ar waliau allanol

•  Uwchraddio’r deunydd inswleiddio mewn toeau os oes angen

•  Gosod paneli solar ffotofoltäig ynghyd â batris storio ynni

•  Uwchraddio ffaniau echdynnu mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi er mwyn gwella’r awyru                                                                                   

Mae Miss Evans sy’n denant ar ystâd Maes Seilo, Aberystwyth yn fodlon iawn â’r gwaith a gyflawnwyd ar ei chartref, ac mae’n dweud bod yr eiddo’n edrych yn well o lawer o ganlyniad iddo. Mae deunydd inswleiddio wedi’i osod ar y waliau allanol, ynghyd â chafnau bargod newydd a phaneli solar, a bydd canopi newydd yn cael ei osod dros y drws ffrynt. Meddai Miss Evans, “Rwyf eisoes wedi gweld fy miliau trydan yn gostwng o ganlyniad i’r gwaith.”

Cafodd cwmni Westdale Midlands Ltd ei gontractio i gwblhau cam un a cham dau y gwaith, ochr yn ochr â chontractwyr Barcud a fu wrthi ar yr un pryd yn gosod ffenestri newydd mewn eiddo lle’r oedd eu hangen.

Meddai Mike Rothwell sy’n Rheolwr Dylunio gyda chwmni Westdale Midlands Ltd, “Mae’n wych bod Barcud wedi gwneud cymaint o waith ar ei eiddo presennol. Mae gwneud yr holl waith yma’n wasanaeth arbennig i denantiaid. Mae’n bleser gweithio gyda chleient sy’n edrych i’r dyfodol. Rydym yn sylweddoli bod y gwaith yn tarfu ar denantiaid, ond rydym yn gobeithio y byddant yn maddau i ni ar ôl gweld y gwahaniaeth y bydd anghyfleustra am gyfnod byr yn ei wneud i’w biliau ynni yn y tymor hir.”

Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin, ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu ac i ddarparu cymorth o ran tai a gwasanaethau cynnal a chadw hanfodol o’r radd flaenaf i denantiaid a chymunedau. Mae gan 76% (dros 3,300) o gartrefi Barcud Dystysgrif Perfformiad Ynni sy’n dangos eu bod yn perthyn i Fand A, B neu C.