Grŵp Barcud yn gwneud mwy na’r disgwyl i godi arian i Ambiwlans Awyr Cymru

Mae deuddeg aelod o dîm Grŵp Barcud wedi bod yn ymarfer yn galed i baratoi ar gyfer rhedeg Hanner Marathon Caerdydd fis nesaf er mwyn codi arian i Ambiwlans Awyr Cymru.

Mae Jason Jarrams, Phil Dayus-Johnson, Jonathan Evans, Kathryn Botchett, Rhiannon Staley, Bronte Jenkinson, Tim Egerton, Emma Cliff, Megan Watkin, Rhodri Beaumont, Keith Evans a Non Edwards i gyd yn paratoi ar gyfer rhedeg y cwrs 13.1 milltir o gwmpas y brifddinas ddydd Sul, 4 Hydref 2026.

Mae gan Jason Jarrams, sy’n Weithiwr Aml-grefft yn Nhîm Cynnal a Chadw Medra yn Barcud, reswm personol iawn dros redeg Hanner Marathon Caerdydd ar 4 Hydref. Dyma’r 10fed hanner marathon y bydd wedi’i redeg yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Hanner Marathon Caerdydd oedd ei hanner marathon cyntaf yn 2022, ar ôl gwella’n dilyn gwrthdrawiad cas yn 2014 pan oedd Ambiwlans Awyr Cymru yn bresennol. Mae am godi cymaint o arian ag sy’n bosibl er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r elusen hanfodol hon.

Nid yw rhai o’r bobl sy’n cymryd rhan wedi rhedeg hanner marathon erioed o’r blaen. Yn eu plith y mae Rhodri Beaumont, Swyddog Cynnal Tenantiaethau yn Nhîm Cynnal Barcud. O ddydd i ddydd mae Rhodri, sy’n byw yng Nghwm-ann gyda’i wraig a’i ddwy ferch, yn helpu tenantiaid tai Barcud i gynnal eu tenantiaethau. Nid yw Phil Dayus-Johnson wedi rhedeg o’r blaen chwaith, ond roedd yn teimlo bod hwn yn gyfle rhy dda i’w golli i gefnogi elusen wych. Mae Phil yn byw yn Aberystwyth, ac o ddydd i ddydd mae’n Gydlynydd Cynlluniau Byw’n Annibynnol gyda Barcud.

Nid yw Megan Watkin, sy’n un o Swyddogion Tai Barcud yn y Drenewydd ym Mhowys, wedi cymryd rhan mewn ras ffurfiol na chwblhau ras o’r fath erioed o’r blaen.

Ar y llaw arall mae Emma Cliff sy’n Rheolwr Darparu Gwasanaethau gyda Gofal a Thrwsio ym Mhowys yn y Drenewydd, sef un o is-gwmnïau Barcud, wedi rhedeg marathon o’r blaen ac yn rhedeg llawer o bellterau amrywiol yn rheolaidd. Mae Non Edwards, Cynorthwyydd Personol Prif Weithredwr Grŵp Barcud; Keith Evans, Rheolwr Iechyd a Diogelwch; a Rhiannon Staley, Pennaeth Llywodraethiant, i gyd wedi cwblhau Hanner Marathon Caerdydd yn y gorffennol.

Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud, “Mae’n wych bod nifer o’n cydweithwyr wedi cytuno i ymgymryd â’r her hon sy’n golygu rhedeg pellter hir. Rydym yn falch iawn o bawb sy’n gwneud eu gorau i godi arian ar gyfer ein helusen am y flwyddyn. Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn helpu i godi cymaint o arian ag sy’n bosibl i’r achos haeddiannol hwn.”

Mae Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin. Dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i’r Grŵp godi arian ar gyfer elusen benodol. Yn y gynhadledd flynyddol i gydweithwyr a gynhaliwyd yn ystod gaeaf y llynedd, roedd y mwyafrif o blaid cefnogi elusen a oedd, fel Barcud, yn helpu ac yn cefnogi pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.  

Mae angen i Ambiwlans Awyr Cymru godi £13 miliwn bob blwyddyn i weithredu’r gwasanaeth, ac mae’n gorfod codi’r holl arian sy’n ofynnol i redeg cerbydau a chanolfannau’r gwasanaeth o ddydd i ddydd. Mae pob taith yn costio tua £3,545, ac mae’r timau wedi cyflawni dros 57,000 ohonynt ledled Cymru ers 2001.

Meddai Emma Grant, Arweinydd Materion Cyhoeddus Ambiwlans Awyr Cymru, “Caiff Ambiwlans Awyr Cymru ei ariannu gan bobl Cymru; rydym yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gefnogaeth y cyhoedd i helpu i’w gwneud yn bosibl i’r hofrenyddion barhau i hedfan ac i’r cerbydau ymateb cyflym barhau i deithio. Caiff pob ceiniog o’r £13 miliwn sy’n ofynnol bob blwyddyn ei chodi drwy roddion elusennol, rhoddion mewn ewyllysiau, digwyddiadau codi arian, ein siopau, ac aelodaeth o’n Loteri Achub Bywydau ni ein hunain.”

Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion i helpu’r holl redwyr i gyrraedd eu targed codi arian, sef £2,500, ac i helpu Barcud i gyrraedd ei darged codi arian cyffredinol, sef £5,000. Gallwch glicio yma i gefnogi tîm Hanner Marathon Caerdydd ar-lein: Ambiwlans Awyr Cymru: Cymdeithas Dai Barcud

Llun 1 – left to right – Jason Jarrams (Multi Trade Operative for Medra), Phil Dayus-Johnson (Sheltered Scheme Co-ordinator), Jonathan Evans (Medra Carpenter). Kathryn Botchett (Support and Outreach Worker, The Care Society), Rhiannon Staley (Head of Governance), Bronte Jenkinson (ICT Technician).

Llun 2 – Tim Egerton (Electrician EOM), Wales Air Ambulance’s mascot Biggles!,  Emma Cliff (Service Delivery Manager, Care and Repair in Powys), Megan Watkin (Housing Officer)

Llun 3 – Emma Cliff (Service Delivery Manager, Care and Repair in Powys), Keith Evans (Health and Safety Manager), Non Edwards (PA to CEO)