Cafodd diwrnod sgip cymunedol llwyddiannus ei gynnal ar ystâd Clawdd Helyg ddydd Mawrth 31 Mawrth, a ddaeth â staff Barcud a phreswylwyr lleol at ei gilydd mewn ymdrech ar y cyd i wella’r gymdogaeth ![]()
![]()
Yn rhan o’r fenter, bu aelodau niferus o dîm Barcud yn gweithio ochr yn ochr â phreswylwyr a wnaeth yn fawr o’r cyfle i gael gwared ag eitemau diangen o’u cartrefi a chyfrannu at glirio’r ystâd yn gyffredinol. O ganlyniad i’r ymdrech ar y cyd, cafodd dwy sgip fawr eu llenwi i’r ymylon yn ystod y diwrnod.
Roedd yr effaith i’w gweld yn syth, a chafodd yr ystâd ei gadael mewn cyflwr a oedd gryn dipyn yn well. Yn ogystal â gwella golwg yr ardal, llwyddodd yr ymgyrch glanhau i feithrin ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol ymhlith y sawl a gymerodd ran.
Diolch yn fawr i’r holl breswylwyr a’r holl staff a gyfrannodd i lwyddiant y diwrnod.



