Barcud yn lansio Cynllun Busnes pum mlynedd uchelgeisiol

Wrth i Gymru wynebu un o’r cyfnodau mwyaf arwyddocaol o newid i’r sector tai ers dros ddegawd, mae Grŵp Barcud wedi lansio ei Gynllun Busnes pum mlynedd uchelgeisiol yr wythnos hon.

Mae’r cynllun yn esbonio, gydag eglurder ac ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb, sut y bydd Barcud yn ymdrin â’r materion pwysig sy’n golygu llawer i denantiaid a chymunedau – yn enwedig costau byw, y graddau y mae cartrefi gwirioneddol fforddiadwy ar gael, a’r angen i ddatgarboneiddio’r mannau lle mae pobl yn byw.

Meddai Alison Thorne, Cadeirydd Bwrdd Barcud, “Rydym wedi lansio strategaeth flaengar ar gyfer cyfnod o ansicrwydd a chyfle. Craidd cynllunio busnes yw deall y galwadau, ac yna cynllunio’r ffordd orau o greu capasiti a’r gallu i gyflawni. Drwy fuddsoddi mewn datgarboneiddio, paratoi ar gyfer newid gwleidyddol, ehangu ein huchelgeisiau o ran datblygu, a sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd ein penderfyniadau, rydym yn rhoi’r sefydliad mewn sefyllfa i gyflawni gwerth hirdymor ar gyfer ein cymunedau a chyfrannu’n ystyrlon i ddyfodol y sector tai yng Nghymru.”

Mae Cynllun Busnes Barcud yn egluro pum amcan clir:

• Sicrhau’r ddarpariaeth fwyaf posibl o gartrefi fforddiadwy, effeithlon o ran ynni, yn y canolbarth a’r gorllewin

• Bod yn landlord dwyieithog sy’n canolbwyntio ar ei denantiaid, sy’n gweithio gyda phartneriaid i gefnogi’r economi leol a chymunedau lleol, ac sy’n mynd i’r afael â digartrefedd

• Bod yn gyflogwr cynhwysol o’r radd flaenaf, sy’n meithrin diwylliant cadarnhaol ac sy’n ymroi i ddatblygu ei weithwyr

• Bod yn sefydliad cynaliadwy, carbon isel

• Bod yn sefydliad y mae ei lywodraethiant, ei sefyllfa ariannol a’i seilwaith digidol yn gadarn                                                                                                         

Mae tueddiadau demograffig presennol a’r galw cynyddol am dai ar draws cymunedau’r canolbarth a’r gorllewin yn amlygu’r angen brys i adeiladu cartrefi o safon, effeithlon o ran ynni, sy’n diwallu anghenion amrywiol poblogaeth sy’n heneiddio, teuluoedd sy’n tyfu a phobl ifanc. Mae hynny’n greiddiol o hyd i weledigaeth Barcud.

Datgarboneiddio yw’r her ddiffiniol i’r sector tai o hyd. Rhaid i’r cartrefi a ddarperir gan Barcud fod yn gynhesach, yn fwy gwyrdd ac yn fwy effeithlon, ond mae gwneud hynny ar raddfa eang yn gofyn am waith cynllunio gofalus, buddsoddiad hirdymor, ac ymrwymiad i sicrhau cyn lleied ag sy’n bosibl o darfu ar denantiaid. Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, bydd Barcud yn cyflymu ei broses o drawsnewid i sero net drwy fuddsoddi mewn rhaglenni ôl-osod effeithlon o ran ynni, cryfhau ei bartneriaethau o ran y gadwyn gyflenwi, ac ymgorffori cynaliadwyedd yn ei ddull o reoli asedau.

Bydd sicrhau bod tenantiaid wrth wraidd penderfyniadau yn parhau’n flaenoriaeth sefydliadol greiddiol i Barcud. Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae dull wedi’i ddiweddaru o gynnwys tenantiaid a chymunedau wedi cael ei ddatblygu, drwy raglen strwythuredig o weithdai cydweithredol a oedd yn cynnwys tenantiaid, aelodau Bwrdd, a chydweithwyr. Bwriad y broses hon yw sicrhau bod lleisiau, profiadau a blaenoriaethau’r sawl y mae Barcud yn eu gwasanaethu’n llywio ac yn llunio’n uniongyrchol y modd y bydd yn gweithredu yn y dyfodol.

Meddai Alison wedyn, “Ni all dim o waith Barcud lwyddo heb ddealltwriaeth, profiad a phartneriaeth ein tenantiaid. Mae cryfhau’r modd y caiff tenantiaid eu cynnwys yn ffocws craidd. Yn rhan o’n Cynllun Busnes, byddwn yn dwysáu ein dulliau o gyd-gynhyrchu, yn ehangu’r ffyrdd y gall tenantiaid lunio gwasanaethau, ac yn sicrhau bod eu lleisiau’n dylanwadu ar benderfyniadau ar bob lefel yn y sefydliad. Mae’n golygu mwy nag ymgysylltu; mae’n golygu meithrin ymddiriedaeth a gwella gwasanaethau.”

Mae Cynllun Busnes pum mlynedd dwyieithog Barcud ar gael i’w ddarllen yn llawn ar y wefan: Business-Plan-2026-Cymraeg_web.pdf