Barcud yn dathlu cwblhau 41 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni yng ngogledd Sir Benfro

Mae 41 o gartrefi effeithlon o ran ynni wedi’u cwblhau yn llwyddiannus gan Grŵp Barcud yn ddiweddar ynghanol Crymych yn Sir Benfro. Mae’r datblygiad gwerth £9m yn cynnwys cymysgedd o dai ag un, dwy, tair a phedair ystafell wely yn ogystal â byngalos â dwy a thair ystafell wely. Mae hefyd yn darparu cyfuniad o ddeiliadaethau, sef 20 o gartrefi cymdeithasol ar rent a 21 o gartrefi dan gynllun Rhanberchnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae rhywun eisoes yn byw yn yr 20 o gartrefi cymdeithasol ar rent sy’n rhan o’r datblygiad. O ganlyniad i bolisi gosod lleol Barcud, mae nifer fawr o’r tenantiaid yn rhan o’r gymuned leol eisoes ac yn hanu o’r ardal sydd o fewn 15 milltir yn unig i’r datblygiad, ac mae 95% o’r aelwydydd yn cynnwys rhywun sy’n siarad Cymraeg. 

Mae deiliadaeth y 21 cartref arall sy’n rhan o Fferm Fila yn perthyn i gynllun Rhanberchnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi pobl gymwys i brynu cartref drwy brynu cyfran ohono (25% i 75% fel rheol) a thalu rhent ar y gweddill. Mae mwyafrif y cartrefi sydd wedi’u prynu eisoes wedi’u prynu gan bobl leol neu bobl sy’n gweithio yn yr ardal.

Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud, “Mae Barcud yn canolbwyntio ar ddatblygu cartrefi fforddiadwy â deiliadaethau cymysg i’w rhentu a’u prynu. Blaenoriaeth y Grŵp yw buddsoddi yn y cymunedau lle mae’r angen mwyaf am dai fforddiadwy, ac mae sicrhau bod y cartrefi hynny’n cyrraedd y safonau uchaf o ran ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’n un o’r gwerthoedd yr ydym i gyd yn falch iawn ohono. Mae’r datblygiad hwn yng

Nghrymych yn enghraifft wych o’n hymrwymiad i weithio gyda busnesau’r gadwyn gyflenwi leol a chefnogi’r busnesau hynny wrth i ni ddarparu cyfleoedd cyffrous i bobl leol sy’n awyddus i symud i mewn i’w cartref cyntaf wneud hynny yng ngogledd Sir Benfro.”

Mynychodd swyddogion Barcud, tenantiaid newydd, rhanddeiliaid, swyddogion Llywodraeth Cymru a chynghorwyr cymuned lleol ddigwyddiad ‘Croeso’ yn gynharach yr wythnos hon er mwyn gweld y cartrefi newydd a’r datblygiad cyflawn yn Fferm Fila ym mhentref Crymych yn Sir Benfro.

Sterling Construction oedd y prif gontractwr a fu’n gweithio i gyflawni’r buddsoddiad gwerth £9m yng Nghrymych, a ariannwyd yn rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cartrefi i gyd yn rhai â ffrâm goed, mae ganddynt baneli solar a system wresogi sy’n defnyddio gwres o’r aer, ac mae ganddynt Dystysgrif Perfformiad Ynni A. Morgan & Davies, y cwmni lleol gwerthu eiddo, sy’n gyfrifol am farchnata’r cartrefi.

Mae manylion y ddau gartref sydd ar ôl i’w prynu i’w gweld ar wefan Morgan & Davies: www.morgananddavies.co.uk

Jason Jones (Barcud CEO), Gary Evans (Director of Sterling Construction), Geraint Roberts (Barcud Head of development), Mat Reynolds (Site Manager Sterling), Gafyn Evans (Operations Manager Sterling), Paul Evans (Head of Construction Sterling)