Mae Barcud wedi llwyddo i gwblhau datblygiad gwerth £2.5 miliwn yng nghanol Llanidloes ym Mhowys, sy’n cynnwys 10 o gartrefi newydd, effeithlon o ran ynni.
Mae’r datblygiad, sef Cae’r Hen Ysgol, yn darparu chwe thŷ ag un ystafell wely a phedwar tŷ â dwy ystafell wely, a fydd yn helpu i ddiwallu anghenion lleol o ran tai ac a fydd yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwrw gwreiddiau yn eu cymuned.
Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud, “Mae Barcud wrthi’n canolbwyntio ar ddatblygu cymysgedd o gartrefi fforddiadwy i’w rhentu sydd â deiliadaeth amrywiol. Mae buddsoddi yn y cymunedau lle mae’r angen mwyaf am dai fforddiadwy yn un o flaenoriaethau’r Grŵp, ac mae sicrhau bod y cartrefi hynny’n cyrraedd y safonau uchaf o ran ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’n un o’r gwerthoedd yr ydym i gyd yn ymfalchïo’n fawr ynddo. Mae’r datblygiad hwn yn Llanidloes yn enghraifft ardderchog arall o’n hymrwymiad i gydweithio â busnesau yn y gadwyn gyflenwi leol a’u cefnogi, wrth i ni gynnig cyfleoedd cyffrous i bobl leol sy’n awyddus i barhau i fyw’n lleol ym Mhowys.”
Drwy gydweithio yn ystod y 12 mis diwethaf â JJP Services Ltd sy’n gontractwr lleol yn Llanidloes, a gyda chymorth Grant Tai Cymdeithasol gwerth £1.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru, mae Barcud wedi bod yn trawsnewid safle hen ffatri Nwyddau Lledr Sandringham ar Heol Eastgate.
Meddai Dave Hilliard, Rheolwr Contractau JJP Services, “Hwn oedd y tro cyntaf i ni gydweithio â Barcud, ac roedd yn bleser gweithio gyda’n gilydd i ddarparu 10 o dai effeithlon iawn o ran ynni i 10 o drigolion lleol. Rydym yn gobeithio y bydd y tenantiaid newydd yn hapus iawn â’u cartrefi newydd.”
Roedd tenantiaid newydd rhif 9, sef Lauren Buckley a Curt Davies, yn llawn cyffro ynglŷn â symud i mewn yr wythnos nesaf. Mae Curt yn gweithio yn y parlwr tatŵs sydd y tu ôl i’w cartref newydd, ac roedd yn edrych ymlaen at allu cerdded i’r gwaith yn y dyfodol yn hytrach na gorfod teithio o’r Drenewydd.
Mae Barcud wedi cael Dyfarniad Aur ‘Diogelu drwy Ddylunio’ gan Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer y datblygiad newydd, sy’n ddyfarniad o fri, oherwydd bod mesurau a thechnegau atal troseddu wedi’u hymgorffori o’r cam creu cysyniad gyda’r penseiri.
Meddai’r Cwnstabl Steve Morris, Swyddog Atal Troseddu drwy Ddyluniad gyda Heddlu Dyfed-Powys, “Mae Diogelu drwy Ddyluniad yn cyfrannu at greu cymunedau cynaliadwy drwy hybu amgylcheddau mwy diogel lle mae pobl yn teimlo’n gyffyrddus ac yn teimlo eu bod wedi’u grymuso. Mae Diogelu drwy Ddyluniad yn sicrhau manteision gydol oes i’r amgylchedd, i gymdeithas ac, yn anad dim, i bobl. Mae prosiectau ymchwil niferus wedi tynnu sylw’n gyson at effeithiolrwydd eiddo sydd wedi’i adeiladu neu’i adnewyddu yn unol â safonau Diogelu drwy Ddyluniad, o ran atal troseddu.”
Cafodd y 10 annedd yn Llanidloes eu codi gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern a oedd yn cynnwys ffrâm goed. Cafodd dulliau o gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar y safle eu hintegreiddio yn ystod y gwaith adeiladu, drwy banelau solar ffotofoltäig a ategir gan systemau storio ynni mewn batris. Mae hynny’n galluogi’r cartrefi i storio a defnyddio’n fwy effeithlon yr ynni a gynhyrchir, mae’n lleihau dibyniaeth ar y grid, ac mae’n gwella gwydnwch cyffredinol o ran ynni.
Mae dyluniad pob eiddo’n cyrraedd safon uchel o ran perfformiad ynni ac wedi cael A fel sgôr ar gyfer Tystysgrif Perfformiad Ynni, sy’n adlewyrchu ymrwymiad cryf Barcud i gynaliadwyedd, i lefel isel o allyriadau carbon, ac i ddefnydd llai o ynni. Mae hynny’n sicrhau bod y tenantiaid yn elwa o gael cartrefi effeithlon dros ben sy’n barod ar gyfer y dyfodol, y mae costau eu rhedeg yn is ac y mae eu hôl troed amgylcheddol yn well.
Mae gan bob eiddo leoedd parcio oddi ar y ffordd, cyfleusterau gwefru car, a gerddi preifat. Bydd y cartrefi newydd i gyd yn gartrefi rhent cymdeithasol y bwriedir iddynt ddiwallu angen y gymuned leol, ac mae pob un o’r 10 eiddo wedi’u gosod i denantiaid lleol a gasglodd eu hallweddi’n gynharach yr wythnos hon.
Mynychodd swyddogion Barcud, tenantiaid newydd, rhanddeiliaid, aelodau o Lywodraeth Cymru a chynghorwyr lleol ddigwyddiad ‘Croeso’ yr wythnos diwethaf er mwyn iddynt allu gweld yr eiddo newydd a’r datblygiad gorffenedig cyn i’r tenantiaid symud i mewn.
O’r chwith i’r dde wrth fynedfa datblygiad Cae’r Hen Ysgol y mae: Geraint Roberts, Pennaeth Datblygu Barcud; Craig Edwards, Syrfëwr Meintiau JJP Services; Mike Prior, Cyfarwyddwr JJP Services; Jamie Davies, Rheolwr Gweithrediadau JJP Services; Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud; Dave Hilliard, Rheolwr Contractau JJP Services; Mark Owen, Pensaer JJP Services; a Kate Curran, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraethiant a Buddsoddi Grŵp Barcud.



