Barcud yn cael dechrau da i’w ymgyrch codi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru

Yn ddiweddar, lansiodd Barcud ei flwyddyn o godi arian er budd Ambiwlans Awyr Cymru. Mae’r elusen, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed eleni, yn dibynnu’n gyfan gwbl ar roddion gan y cyhoedd i redeg ei cherbydau ymateb cyflym a’i hofrenyddion.

Mae Grŵp Barcud yn gweithredu yn y canolbarth a’r gorllewin. Mae ganddo 300 o weithwyr a 4,500 o denantiaid, ac mae’n cynnwys cymdeithas dai Barcud yn ogystal â Gofal a Thrwsio ym Mhowys, Y Gymdeithas Gofal ac EOM. Mae Barcud wedi ymrwymo i greu busnes uchelgeisiol a blaengar sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cartrefi fforddiadwy i’w rhentu a’u prynu, ac ar ddarparu cymorth o ran tai a gwasanaethau cynnal a chadw hanfodol o’r radd flaenaf i denantiaid a chymunedau.

Dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i Barcud godi arian ar gyfer elusen benodol. Yn y gynhadledd flynyddol i gydweithwyr a gynhaliwyd yn ystod gaeaf y llynedd, roedd y mwyafrif o blaid cefnogi elusen a oedd, fel Barcud, yn helpu ac yn cefnogi pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud, “Mae pawb yr ydym yn siarad â nhw’n adnabod rhywun sydd wedi cael help gan wasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd fy nghydweithwyr, tenantiaid, a ffrindiau a theuluoedd yn ein helpu i godi cymaint ag sy’n bosibl o arian drwy gasgliadau a digwyddiadau ar gyfer yr achos hwn sy’n achos teilwng dros ben. Byddai’n wych pe baem yn anelu’n uchel ac yn codi mwy na’n targed o £5,000.”

Yn ddiweddar, dechreuodd Barcud ar ei ymgyrch codi arian drwy drefnu addasiad gwych o raglen ‘The Traitors’ ar y BBC, a gododd £135, a bu’r Bwrdd yn codi arian drwy drefnu raffl ddifyr. Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian wedi’u trefnu, sy’n cynnwys digwyddiadau Coffi a Chacen ym mhob swyddfa yn y Drenewydd, Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan ar 15 Ebrill, a bydd 10 o gydweithwyr yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref.

Gan fod poblogaeth Cymru mor wasgaredig a bod ei thirwedd mor amrywiol, mae llawer o’r trigolion yn byw mewn lleoliadau diarffordd sydd ymhell o unrhyw ysbyty mawr neu arbenigol. Mewn ardaloedd trefol, gall traffig trwm a gwrthdrawiadau olygu llawer o oedi cyn bod rhywun sydd mewn ambiwlans ar y ffordd yn cael triniaeth. Cydnabyddir, felly, bod angen i bedwar hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru fod ar ddyletswydd bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae angen i’r elusen godi £13 miliwn bob blwyddyn i weithredu’r gwasanaeth, ac mae’n gorfod codi’r holl arian sy’n ofynnol i gyflawni’r teithiau o ddydd i ddydd. Mae pob taith yn costio tua £3,545, ac mae’r timau wedi cyflawni dros 55,000 ohonynt ledled Cymru ers 2001.

Meddai Emily Bell o dîm codi arian Ambiwlans Awyr Cymru, “Caiff Ambiwlans Awyr Cymru ei ariannu gan bobl Cymru; rydym yn dibynnu’n gyfan gwbl ar gefnogaeth y cyhoedd i’w gwneud yn bosibl i’r hofrenyddion barhau i hedfan. Nid yw’r elusen yn cael cyllid uniongyrchol gan y llywodraeth, ac nid ydym chwaith yn gymwys i gael arian gan y Loteri Genedlaethol. Caiff yr arian ei godi, felly, drwy roddion elusennol, digwyddiadau codi arian, ac aelodaeth o’n Loteri Achub Bywydau ni ein hunain. Rydym yn ddiolchgar i Barcud am ddewis ein cefnogi am 12 mis.”

Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion i gefnogi Barcud ac i’w helpu i gyrraedd y targed codi arian, sef £5,000. Gallwch glicio yma i roi cyfraniad ar-lein: https://cardiffhalf26.enthuse.com/pf/barcud