Arian aruthrol wedi’i godi er budd Ambiwlans Awyr Cymru mewn digwyddiadau Coffi a Chacen

Codwyd dros £2,100 er budd yr elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn naw cynllun byw’n annibynnol Barcud yng Ngheredigion a Phowys yr wythnos diwethaf, wrth iddynt gynnal digwyddiadau Coffi a Chacen llwyddiannus.

Yn ddiweddar, lansiodd Barcud ei flwyddyn o gefnogi Ambiwlans Awyr Cymru gan osod targed codi arian, sef £5,000. Dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i Barcud godi arian ar gyfer elusen benodol. Yn y gynhadledd flynyddol i gydweithwyr a gynhaliwyd yn ystod gaeaf y llynedd, roedd y mwyafrif o blaid cefnogi elusen a oedd, fel Barcud, yn helpu ac yn cefnogi pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Cafodd digwyddiadau Coffi a Chacen eu cynnal yn naw cynllun byw’n annibynnol Barcud ac ym mhob un o’i swyddfeydd. Roedd Maes Gogerddan yn Aberystwyth wedi trefnu cerddoriaeth fyw i’r preswylwyr wrando arni tra oeddent yn mwynhau eu coffi a’u cacen. Cynhaliodd Bro Teifi yn Aberteifi raffl ac arwerthiant pen bwrdd i godi arian, yn ogystal â darparu coffi a chacen. Bu tenantiaid Hafan yr Efail yn Llan-non yn mwynhau te gyda sgons, jam a hufen, a threfnwyd raffl a stondin boteli. Rhoddodd preswylwyr Afallen Deg yn Bow Street arian i’r achos o goffrau eu clwb cymdeithasol, a chynhaliodd Llys Pedr yn Llanbedr Pont Steffan raffl yn rhan o ddigwyddiad Coffi a Chacen y cynllun.

Meddai Sara Woodall, Cyfarwyddwr Cymunedau Barcud, “Roeddem mor falch bod dros £2,100 wedi’i godi yn ystod y digwyddiadau Coffi a Chacen yn ddiweddar, a oedd yn ddigwyddiadau hwyliog a difyr i denantiaid a chydweithwyr. Rhaid mai un o uchafbwyntiau digwyddiadau’r wythnos diwethaf oedd ymweliad gan fasgot Ambiwlans Awyr Cymru, sef Biggles yr Arth, i weld tenantiaid William Ainge Court yn y Trallwng. Cafwyd sêl bendith Biggles a ddywedodd fod y cacennau bach yn flasus dros ben.”

Gan fod poblogaeth Cymru mor wasgaredig a bod ei thirwedd mor amrywiol, mae llawer o’r trigolion yn byw mewn lleoliadau diarffordd sydd ymhell o unrhyw ysbyty mawr neu arbenigol. Mewn ardaloedd trefol, gall traffig trwm a gwrthdrawiadau olygu llawer o oedi cyn bod rhywun sydd mewn ambiwlans ar y ffordd yn cael triniaeth. Cydnabyddir, felly, bod angen i bedwar hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru fod ar ddyletswydd bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae angen i’r elusen godi £13 miliwn bob blwyddyn i weithredu’r gwasanaeth, ac mae’n gorfod codi’r holl arian sy’n ofynnol i gyflawni’r teithiau o ddydd i ddydd. Mae pob taith yn costio tua £3,545, ac mae’r timau wedi cyflawni dros 55,000 ohonynt ledled Cymru ers 2001.

Byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion i gefnogi Barcud ac i’w helpu i gyrraedd y targed codi arian, sef £5,000. Gallwch glicio yma i roi cyfraniad ar-lein: https://cardiffhalf26.enthuse.com/pf/barcud