Swydd newydd Gyffrous yn Barcud

Mae’r broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer rôl Cyfarwyddwr Cyllid Cynorthwyol newydd yn Barcud.  Mae’r tîm gwych hwn yn edrych i lenwi un o’r swyddi uwch gyda’r rôl wedi’i lleoli naill ai yn ein Prif Swyddfa yn Llanbedr Pont Steffan neu yn ein swyddfeydd rhanbarthol yn Aberystwyth neu’r Drenewydd.

Dyma gyfle gwych i’r ymgeisydd iawn – cydnabyddiaeth ardderchog, T&A da a chydweithwyr gwych! 

Cymerwch olwg ar y proffil rôl a’r disgrifiad swydd yma https://jobs.campbelltickell.com/barcud

Y dyddiad cau yw 9yb ar ddydd Gwener y 23ain o Fai. 

Os hoffech ragor o fanylion am y rôl, e-bostiwch Kelly.shaw@campbelltickell.com