Mae’n bleser gan Barcud gyhoeddi bod dau weithiwr proffesiynol medrus dros ben wedi cael eu penodi’n aelodau o Dîm Arwain Gweithredol y gymdeithas dai. Bydd Sara Woodall yn ymuno fel Cyfarwyddwr Cymunedau a bydd Deina Hockenhull yn camu i swydd newydd sbon, sef swydd y Cyfarwyddwr Grŵp Pobl a Mewnwelediadau.
Mae’r penodiadau strategol hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Barcud i gryfhau arweinyddiaeth y gymdeithas dai a hybu ei chenhadaeth, sef creu cymunedau bywiog a chydnerth drwy gynnig gwasanaeth ardderchog i denantiaid, arloesi, ac ymgysylltu mewn modd cynhwysol.

Mae Sara Woodall yn arweinydd cydnabyddedig ym maes gwasanaeth i gwsmeriaid, tai ac ymgysylltu â chymunedau, ac mae ganddi dros dri degawd o brofiad o weithio ym maes llywodraeth leol, tai cymdeithasol ac ymgynghori. Yn ei swydd ddiweddaraf fel Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid yng Nghymdeithas Dai Connexus, roedd Sara yn gyfrifol am bortffolio eang a oedd yn cynnwys rheoli tenantiaethau, digartrefedd, tai â chymorth, allgymorth, gwasanaethau i bobl ifanc a buddsoddiad cymunedol ar gyfer dros 10,500 o gartrefi. Mae Sara hefyd wedi dal swyddi uwch gydag Accord Housing a GreenSquareAccord, ac roedd yn Brif Weithredwr Cymdeithas Dai Heantun.

Mae Deina Hockenhull yn arbenigwr profiadol ym maes cyfathrebu a gwasanaethau i gwsmeriaid, ac mae’n ymuno â ni o Gyngor Sir Gâr lle’r oedd yn arwain swyddogaethau cyfathrebu ac ymgysylltu strategol ar y lefel uchaf ac yn atebol yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Mae gan Deina 25 mlynedd o brofiad o weithio ym maes llywodraeth leol yng Nghymru, a chaiff ei pharchu’n eang am ei gallu i wella gwasanaethau drwy blatfformau digidol, data a dealltwriaeth ac am ei gallu i feithrin cydberthnasau cryf â chymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid. Bydd ei swydd newydd gyda Barcud yn hybu dull blaengar o ddatblygu pobl, datblygu strategaeth a yrrir gan ddealltwriaeth, ac ymgysylltu â thenantiaid.
Meddai Jason Jones, Prif Weithredwr Barcud, wrth sôn am y penodiadau:
“Mae’r Bwrdd a’r Tîm Arwain yn falch iawn o groesawu Sara a Deina i Barcud. Mae eu hegni, dyfnder eu profiad, a’u hangerdd dros bobl a chymunedau’n hollol amlwg ac maent yn berffaith i Barcud. Mae’r penodiadau newydd cyffrous hyn yn ddechrau pennod newydd yn Barcud pan fydd arloesi, hybu cynhwysiant a sicrhau effaith barhaol er lles ein preswylwyr a’n cymunedau ehangach wrth wraidd pob peth a wnawn.”
Mae Barcud yn edrych ymlaen at y daith sydd i ddod, gyda thîm arwain sydd ar ei newydd wedd ac sydd mewn sefyllfa dda i gyflawni ymrwymiad y gymdeithas dai i ddarparu gwasanaethau rhagorol a grymuso cymunedau ar draws ei rhanbarthau.