Yng Nghymdeithas Tai Barcud, nid adeiladu cartrefi yn unig y byddwn ni – byddwn yn helpu i siapio dyfodol pobl. Fel corff deinamig, blaengar sy’n gwasanaethu cymunedau ledled canolbarth a gorllewin Cymru, rydym ar genhadaeth i greu newid parhaol, positif yn y lleoedd yr ydym yn eu galw’n gartref. Ac yntau wedi’i greu drwy uno Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Tai Ceredigion yn 2020, mae Barcud bellach ar flaen y gad o ran tai fforddiadwy, â mwy na 4,000 o gartrefi, trosiant blynyddol dros £28 miliwn, a thîm eiddgar o fwy na 300 o bobl Grŵp (Cymdeithas Tai a thri is-gwmni) Ymunwch â ni yn Barcud
Rydym yn cynnig amodau gwaith gwych a chyfleoedd cyflogaeth rhagorol i ddatblygu o fewn y sector. Nawr, rydym yn chwilio am bedwar person llawn cymhelliant i ymuno â ni yn ein gwaith di-flino o ddydd i ddydd.