PARTNERIAETH WYCH AR GYFER EFFEITHLONRWYDD YNNI

Mae Barcud yn gweithio gyda Cyngor ar Bopeth Ceredigion ar brosiect newydd cyffrous ac mae’n chwilio am bobl yng Ngheredigion a’r ardaloedd cyfagos i ymuno â’r cynllun.

Bydd y gwasanaeth yn cynnig ‘archwiliad iechyd ariannol’ rhad ac am ddim yn ogystal â chyngor a chymorth i leihau biliau ynni cartrefi, arbed arian ar hanfodion eraill a chael gafael ar fudd-daliadau, grantiau a help arall i gynyddu incwm cartrefi.

Bydd cyngor a chymorth rhad ac am ddim ar gael er mwyn i ddeiliaid tai allu cael eu systemau gwresogi i weithio mor effeithlon ag sy’n bosibl, a chael cartref diogel a chynnes. Bydd y cyngor a’r cymorth hefyd yn cynnwys darparu eitemau megis dyfeisiau atal drafft, bylbiau arbed ynni, siaced ar gyfer silindr boeler ac eitemau eraill sy’n arbed ynni yn y cartref, a hynny’n rhad ac am ddim, yn dilyn asesiad o fesurau perthnasol ar gyfer y cartref unigol, tra bydd stoc o’r eitemau hynny ar gael.

Yn rhan o’r prosiect, mae Barcud a Cyngor ar Bopeth hefyd yn gweithio ar brosiect peilot gan Lywodraeth Cymru i asesu effeithiolrwydd y cyngor hwn, felly byddem yn eich annog i gymryd rhan yn y cynllun os cewch gais i wneud hynny. Bydd unrhyw fanylion ac amgylchiadau personol yn cael eu cadw’n gyfrinachol.

Os hoffech gymryd rhan neu ofyn am gymorth, cysylltwch â William Jones neu Bronwen Robb yn Cyngor ar Bopeth Ceredigion drwy ffonio 01239 621974 neu anfon ebost i enquiries@cabceredigion.org

Bydd rhywun ar gael i ateb y ffôn o 9am tan 3pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac ar adegau eraill bydd modd gadael neges ar beiriant ateb sy’n cael ei wirio o ddydd Llun i ddydd Gwener.