CYLCH CARON AR STOP OND YR UCHELGAIS A’R YMRWYMIAD YN PARHAU

Mae prosiect partneriaeth i ddarparu Canolfan Adnoddau Integredig yn Nhregaron – Cylch Caron – wedi cael ei atal. Fodd bynnag, dywed y partneriaid eu bod wedi ymrwymo o hyd i wneud gwelliannau i’r model gwledig ar gyfer tai a gofal cymunedol yn yr ardal.

Mae Bwrdd y Prosiect wedi gwneud y cyhoeddiad ar ran y tri phrif bartner, sef Cyngor Sir Ceredigion, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Tai Canolbarth Cymru (sydd bellach yn rhan o grŵp tai Barcud).

Roedd disgwyl y byddai’r prosiect yn darparu meddygfa, fferyllfa gymunedol, clinigau i gleifion allanol, cyfleusterau nyrsys cymunedol a chyfleusterau gofal cymdeithasol ar un safle, yn ogystal â thai gofal ychwanegol. Er gwaethaf yr holl ymdrech yn ystod y misoedd diwethaf i ystyried opsiynau eraill o ran maint y ganolfan a’i dyluniad, nid yw’n bosibl darparu cynllun gofal ychwanegol ar gyfer Tregaron, sy’n hyfyw o safbwynt ariannol, o fewn y cyllid cyfalaf a refeniw sydd ar gael.

Meddai Cadeirydd Bwrdd y Prosiect, Peter Skitt, ar ran yr holl bartneriaid: “Mae’r datblygiad hwn yn anffodus dros ben ond yn gam angenrheidiol yn awr er mwyn i bob un ohonom ddechrau canolbwyntio ar sicrhau ateb y mae modd ei gyflawni ar gyfer y gymuned yn Nhregaron a’r ardal gyfagos. Bydd y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn cynnal asesiadau brys ynghylch unrhyw atebion interim y gallai fod angen eu gweithredu wrth i ni lunio cynllun hirdymor.”

Meddai Prif Weithredwr Grŵp Barcud, Steve Jones: “Mae datblygu cynllun arloesol sy’n darparu gwasanaethau tai ac iechyd cymunedol ar y cyd mewn ardaloedd gwledig iawn megis Tregaron yn heriol, o safbwynt sicrhau dyluniad cynaliadwy, prisiau adeiladu fforddiadwy drwy broses dendro, a chostau gweithredol hyfyw. Mae pob un o’r partneriaid wedi ymdrechu’n galed, drwy gydweithio â’i gilydd gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, gwleidyddion lleol a busnesau yn y gymuned, i geisio cyflwyno cynllun hyfyw o safbwynt ariannol er mwyn ei gwneud yn bosibl i wasanaethau lleol a chartrefi hygyrch gael eu darparu yn Nhregaron. Yn anffodus, nid oedd modd cyflwyno cynllun hyfyw o safbwynt ariannol ar y safle arfaethedig presennol.”

Meddai Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym wedi ymrwymo i brosiect Cylch Caron fel Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a byddwn yn parhau i ystyried amryw opsiynau eraill er mwyn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ardal Tregaron.”

Meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedyn: “Yr uchelgais yn ein strategaeth ddeng mlynedd yw cael model cymdeithasol, integredig ar gyfer iechyd. Mae cynlluniau megis Cylch Caron, a’r cynlluniau yr ydym wedi’u cyflwyno eisoes mewn rhannau eraill o Geredigion, yn bwysig er mwyn i ni wireddu’r uchelgais hwnnw. Ni fyddwn yn colli golwg ar y nod hwn a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ateb sy’n iawn ar gyfer y gymuned hon.”

Mae pob un o’r tri sefydliad partner wedi ymrwymo’n bendant o hyd i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol, ochr yn ochr â thai fforddiadwy a hygyrch sy’n dai o safon, a byddwn yn parhau i weithio gyda chynrychiolwyr y gymuned leol yn Nhregaron a gyda Llywodraeth Cymru i archwilio ffyrdd eraill o ddarparu’r gwasanaethau a’r cyfleusterau hynny.