Adeilad newydd, enw newydd, bywyd newydd

Wrth i waith fynd rhagddo yn dda ar safle hen Adeiladau’r Llywodraeth yn Llanbedr Pont Steffan, mae’n bleser gan Barcud gyhoeddi mai enw’r Ganolfan Fusnes newydd fydd Creuddyn.

Bydd yr adeilad newydd, sydd tua 250 metr o Nant Creuddyn, yn cynnig unedau busnes modern o’r radd flaenaf ar gyfer busnesau lleol, y sector gofal cymdeithasol a mudiadau elusennol a bydd yn berffaith ar gyfer busnesau newydd sy’n chwilio am leoliad yn y dref. Bydd yn gyfleuster cymunedol newydd a chyffrous a fydd yn dod â phobl ynghyd, yn helpu i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, yn cynnal swyddi, yn darparu cyfleoedd o ran hyfforddiant ac yn cynnig lleoliadau i fentrau cymdeithasol.

Prynodd Tai Ceredigion (sef Barcud erbyn hyn) yr adeilad oddi wrth Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Mawrth 2018 – a chyhoeddodd yn fuan y cynlluniau newydd cyffrous i ddymchwel hen ‘Adeiladau’r Llywodraeth’ ddechrau 2019. Mae’r prosiect wedi cael cefnogaeth gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chyngor Sir Ceredigion sy’n rhannu gweledigaeth Barcud i wireddu’r syniad.

Meddai Steve Jones, Prif Weithredwr Barcud: “I drigolion Llanbedr Pont Steffan, roedd gweld hen ‘Adeiladau’r Llywodraeth’ yn cael eu dymchwel yn arwydd o ddiwedd cyfnod. Mae ymdrechion diflino ein staff a’n contractwyr dros y 12 mis diwethaf eisoes wedi adfywio’r safle. Gyda chymorth buddsoddiad gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a chyllid gan raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect yn dod â buddsoddiad o £3.2 miliwn i’r dref.”

Meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Rydw i wrth fy modd bod Cyngor Sir Ceredigion a Barcud yn rhannu gweledigaeth i hybu busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu, yn enwedig yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n ddifrifol tu hwnt ar ein cymunedau gwledig, ac mae’n newid y modd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Bydd cael canolfannau busnes tebyg i Creuddyn yn ein cymunedau gwledig yn darparu ffordd newydd a chyffrous o weithio er mwyn hybu twf economaidd lleol yng nghanol Ceredigion.”

Mae Barcud yn edrych ymlaen at ddechrau sgwrsio ag unrhyw un sy’n chwilio am safle busnes yn y lleoliad ardderchog hwn yn Llanbedr Pont Steffan. Bydd yr unedau a fydd o’r radd flaenaf yn costio cyn lleied â £50 yr wythnos. Bydd ystafelloedd cyfarfod a desgiau i’w rhannu ar gael hefyd yn ôl yr angen. I gael sgwrs anffurfiol cysylltwch â Catrin Owen, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Cwsmeriaid a Phartneriaethau, drwy ebost creuddyn@barcud.cymru.