Y Cynghorydd Hag Harris

Gyda thristwch, cawsom y newyddion ddoe am farwolaeth sydyn Cynghorydd Tref Llanbedr Pont Steffan a Cheredigion, Hag Harris. Hag oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Tai Ceredigion.

Roedd yn gefn cadarn yn ystod y broses o drosglwyddo stoc ac fel rhan o’r Bwrdd, cafodd effaith sylweddol yn y modd y tyfodd y staff a’r busnes yn y blynyddoedd cynnar.

Roedd gan Hag ddiddordeb mawr yng ngwaith Barcud er budd tai cymdeithasol yng Ngheredigion ac roedd yn gefnogol iawn yn ystod yr uno yn 2020.

Roedd ei gefnogaeth, ei frwdfrydedd a’i hiwmor yn heintus ac roedd wrth ei fodd yn herio – bob amser yn dod â’r gorau allan mewn pobl.

Roedd yn ffrind da, yn gymeriad yn y gymuned ac yn ddyn gwybodus a charedig iawn a bydd colled fawr ar ei ôl.

Rydym yn meddwl am ei deulu a’i ffrindiau ar yr amser trist hwn.