Dangos Cynlluniau ar gyfer Datblygiad Arfaethedig yng Nghwmann, Sir Gaerfyrddin

Mae Barcud yn rhoi’r cyfle i’r gymuned leol yng Ngwmann i roi sylwadau ar ei cynlluniau arfaethedig i ddatblygu cartrefi newydd yn y pentref cyn i’r cais llawn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Gâr.

Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys newid cyn Ysgol Coedmor i gartref ac adeiladu 21 cartref fforddiadwy newydd ar dir yr hen ysgol. Mae’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys cymysgedd o dai a byngalos (1-4 gwely). Gellir gweld a lawrlwytho’r cynlluniau, a gwybodaeth technegol arall ar ein tudalen datblygiadau

Dyma gyfle i chi roi sylwadau uniongyrchol i ni ar y datblygiad arfaethedig. Byddwn ni yn ystyried pob sylw cyn penderfynu ar y cynlluniau terfynol.

. .

Dylai unrhyw un sy’n dymuno rhoi sylwadau ar y datblygiad arfaethedig e-bostio development@barcud.cymru neu ysgrifennu at:

Barcud,
Unit 4,
Pont Steffan Business Park,
Lampeter,
Ceredigion,
SA48 7HH

cyn 25ain Hydref 2021.

Click on the buttons below to view the PDF Plans