Barcud yn cwblhau trefniant ailgyllido yn dilyn yr uno

Barcud yn cwblhau trefniant ailgyllido yn dilyn yr uno, sy’n hybu’r gwaith o gyflawni un o’n hamcanion strategol, sef darparu 5,000 o gartrefi deiliadaeth gymysg, sy’n gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o safon, erbyn 2025

Yn dilyn dros ddwy flynedd o gynllunio, cafodd y broses o uno dwy gymdeithas dai yn y canolbarth a’r gorllewin ei chwblhau ar 1 Tachwedd 2020. Dyna’r tro cyntaf erioed i gymdeithas dai draddodiadol a sefydliad trosglwyddo stoc uno â’i gilydd yng Nghymru.

Mae Barcud yn berchen ar dros 4,000 o gartrefi ledled Ceredigion, Powys, Gogledd Sir Benfro a Sir Gâr, ac yn eu rheoli, ac mae hefyd yn cyflogi dros 300 o aelodau o staff. Mae grŵp Barcud yn cynnwys is-gwmnïau, sef Gofal a Thrwsio Powys, EOM a’r Gymdeithas Gofal.

Meddai Kate Curran, Cyfarwyddwr Grŵp Cyllid a TGCh: “Mae gweithio fel un sefydliad yn cryfhau ein gwasanaethau a’n trefniadau llywodraethu ac yn ein galluogi i ddefnyddio ein hadnoddau a’n harbenigedd ar y cyd i helpu i gynnal a chadw, gwella ac adeiladu cartrefi fforddiadwy o safon, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon.

Mae hefyd wedi ein galluogi i ailgyllido er mwyn adeiladu ar ein cryfderau. Yn dilyn yr uno, ein bwriad oedd ailgyllido’r cyllid yr oeddem yn ei gael gan fanciau, er mwyn gwneud yn fawr o’r manteision o ran trysorlys a oedd ar gael i Barcud, a oedd yn cynnwys denu cyllid hirdymor rhad. Roedd gan y gymdeithas unedig fenthyciadau hanesyddol â llog uchel gan fanciau, nad oeddent yn dal unrhyw werth o’u cymharu â’r benthyciadau hirdymor rhad sydd ar gael yn awr.

Mae ein strategaeth o ran trysorlys wedi’i rhoi ar waith yn llwyddiannus erbyn hyn, gyda chymorth gan Centrus sy’n gynghorwyr blaenllaw yn y farchnad. Rydym wedi creu perthynas newydd ag Aberdeen Standard Investments (ASI), sef un o bartneriaid rheoli asedau strategol Phoenix Group, sef busnes mwyaf y DU ym maes cynilion hirdymor ac ymddeol. Mae ASI wedi darparu Trefniant Preifat gwerth £50 miliwn ar sail cyfradd sefydlog sydd gryn dipyn yn is na’n rhagdybiaeth yn y cynllun busnes, ac mae’r cyllid hirdymor hwn yn darparu sylfaen wych ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn y dyfodol. Mae’r enillion wedi’u defnyddio i ailgyllido dyled sydd gennym eisoes i fanciau, ac mae’r gweddill ar gael i gefnogi ein cynlluniau i dyfu.

Mae Barcud hefyd wedi ymestyn y berthynas ardderchog sydd ganddo eisoes â Banc Barclays ccc, drwy fanteisio ar Gyfleuster Credyd Cylchdröol gwerth £20 miliwn, sy’n darparu cyllid hyblyg yn y tymor byrrach.

Un nodwedd o’r ddau gytundeb cyllido newydd yw eu cysylltiadau ag amcanion Barcud o ran cynaliadwyedd, sy’n golygu y byddwn yn cael budd o ostyngiadau pellach yng nghost cyllid os caiff amryw fesurau a gytunwyd eu cyflawni, sy’n gysylltiedig â’n heffeithiau amgylcheddol a chymdeithasol a’n heffeithiau o ran llywodraethu.

Mae cwblhau’r prosiect ailgyllido hwn cyn pen naw mis ar ôl yr uno’n dipyn o gamp i bawb dan sylw. Mae llwyddo i ddenu cyllid newydd ar delerau ardderchog yn adlewyrchu cryfder Barcud, sydd wedi’i hybu ymhellach yn awr.”

Meddai Steve Jones, Prif Weithredwr Grŵp Barcud: “Roedd y ddwy gymdeithas dai yn arddel yr un gwerthoedd a’r un uchelgais, sef ymdrin â’r prinder tai fforddiadwy o safon y mae eu hangen yn fawr yn y canolbarth a’r gorllewin. Mae Barcud yn ymwybodol o’r heriau y mae’r sector tai lleol yn eu hwynebu. Gyda’n partneriaid mewn awdurdodau lleol a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, rydym yn awr mewn sefyllfa gryfach fyth i allu parhau i weithio tuag at yr amcan hwnnw ac ymrwymo’n llawn i uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cartrefi newydd a fforddiadwy, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, mewn ardaloedd gwledig. Rydym yn dal i wrando ar ein tenantiaid ac i weithio’n galed i ddatblygu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion ein cymunedau. Rydym yn byw ac yn gweithio yn y cymunedau hynny ac rydym am i’n tenantiaid a’n staff fod yn falch o’r gwasanaethau a ddarperir gennym. Gyda dealltwriaeth drylwyr ein tîm o anghenion yr ardal, a’n cryfder a’n heffeithlonrwydd ar y cyd, gallwn ddiwallu’r holl ystod o anghenion o ran tai yng nghanol Cymru. Yn dilyn proses gyfweld ddwys, roedd Barcud yn falch o allu penodi Centrus yn gynghorwyr i’n tywys drwy brosiect ailgyllido trylwyr er mwyn sicrhau ein bod fel cymdeithas dai yn addas i’n diben ar gyfer y dyfodol. Mae cwblhau’r prosiect wedi darparu sylfaen gadarn ar gyfer ein datblygiadau yn y dyfodol.”

Ni fyddem wedi medru sicrhau canlyniad mor llwyddiannus heb gymorth ein partneriaid cynghori a chyllido.

Meddai Paul Stevens, Cyfarwyddwr Gweithredol, Centrus: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Thîm Gweithredol a Bwrdd Barcud i roi strategaeth newydd o ran trysorlys ar waith yn llwyddiannus, gan sicrhau canlyniadau sy’n rhagori ar yr amcanion a gytunwyd yn rhan o’r achos busnes. Mae Barcud mewn sefyllfa well yn awr i wireddu ei uchelgeisiau ar gyfer tyfu, ac mae ganddo blatfform cryfach o ran trysorlys i lywio ei benderfyniadau ynghylch buddsoddi a chael y budd mwyaf posibl o gysylltiadau â chynaliadwyedd, effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol ac effeithiau o ran llywodraethu.”

Meddai Fiona Dickinson, Cyfarwyddwr Buddsoddi, Aberdeen Standard Investments: “Oherwydd ein gwybodaeth eang am y sector tai fforddiadwy yn y DU, roedd ASI mewn sefyllfa dda i chwarae rôl hollbwysig yn y broses o gysylltu cyfalaf hirdymor ein partner strategol â’r cyfle gwych hwn i gyllido cartrefi newydd yng Nghymru, sicrhau effaith gadarnhaol o safbwynt amgylcheddol a chymdeithasol ac o safbwynt llywodraethu, a newid bywydau pobl er gwell.”

Meddai Michael Eakins, Prif Swyddog Buddsoddi, Phoenix Group: “Rydym wrth ein bodd o fod wedi cwblhau’r broses hon er mwyn darparu tai cymdeithasol, sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, ar draws rhanbarth y canolbarth a’r gorllewin drwy barhau i ddefnyddio ein cyfalaf i arloesi er mwyn hybu effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol. Mae defnyddio targedau ar gyfer effeithlonrwydd ynni i lunio’r cytundeb hwn yn mynd i wraidd ein hagenda o ran cynaliadwyedd a’n ffocws ar sicrhau bod ein buddsoddiadau’n helpu i sicrhau adferiad gwell a mwy gwyrdd. Rydym yn gwybod bod prinder tai difrifol ar draws y DU, ac rydym wedi ymrwymo i wneud ein gorau i helpu pobl a chymunedau ym mhob man.”

Meddai Richard Whittaker, Cyfarwyddwr Cydberthnasau, Barclays: “Rydym yn falch o allu parhau i gefnogi Barcud drwy gyfnod nesaf ei strategaeth ailgyllido, drwy ddarparu Cyfleuster Credyd Cylchdröol sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd. Mae’r cytundeb hwn yn pwysleisio ymhellach ein hymrwymiad parhaus i’r sector tai yn y DU, ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r tîm rheoli er mwyn helpu’r gymdeithas dai uchelgeisiol hon i gyflawni ei hamcanion yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Barcud Group CEO Steve Jones  outside the association's Head Office  at Lampeter.

Data cryno:  

Stoc: 4,000 o gartrefi rhent a chartrefi ar les

Prif swyddfa: Llanbedr Pont Steffan

Swyddfa ranbarthol: Y Drenewydd

Ardal: Ceredigion, Powys, Gogledd Sir Benfro a Sir Gâr. Prif Weithredwr y Grŵp: Steve Jones. Cadeirydd Bwrdd y Grŵp: Stephen Cripps. Is-gwmnïau: Gofal a Thrwsio Powys; EOM; Y Gymdeithas Gofal

Amcanion Strategol Grŵp Barcud

• Darparu 5,000 o gartrefi deiliadaeth gymysg, sy’n gartrefi fforddiadwy a chynaliadwy o safon, yn y canolbarth erbyn 2025

• Bod yn landlord cymunedol ardderchog sydd hefyd yn cynnig gwasanaethau cymorth a gofal • Bod yn fusnes cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar denantiaid, sy’n cynnwys ei gwsmeriaid ar bob lefel ac sy’n gweithredu yn ddwyieithog

• Cefnogi gwaith awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i atal pob math o ddigartrefedd a mynd i’r afael ag ef

• Bod yn gyflogwr delfrydol sy’n cefnogi’r economi leol a chymunedau lleol • Bod yn sefydliad cynaliadwy, carbon isel

• Bod yn sefydliad y mae ei drefniadau llywodraethu a’i sefyllfa ariannol yn gadarn

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Janice Thomas, Swyddog Cyfathrebu, Barcud 01570 424392 janice.thomas@barcud.cymru